Mae chwaraewyr Cymru ar gael am gêm Cwpan Pencampwyr Heineken dydd Sul yn erbyn Sale ar ôl ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad, dywedodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney.
Bydd y Scarlets wedi’i atgyfnerthu gyda naw o chwaraewyr a oedd yn rhan o garfan Cymru yn ystod y twrnamaint, gan gynnwys y cefnwr Johnny McNicholl, sydd wedi gwella o anaf i’w ysgwydd a’r maswr Sam Costelow sydd yn dychwelyd o anaf i’w bigwrn.
Ni fydd Rhys Patchell ar gael am ryw chwech i wyth wythnos o ganlyniad i anaf i’r hamstring, wrth i Tom Prydie derbyn llawdriniaeth ar ei droed.
Ar ddychweliad chwaraewyr Cymru, dywedodd Delaney: “Maen nhw i gyd ar gael sydd yn grêt. Y peth caletaf i ni wythnos yma yw dewis tîm gan ei fod yn her fawr.
“Mae’n ben tost a dwi’n codi am 2yb yn meddwl ‘beth wnawn ni? Sut fydd hyn yn disgwyl?’
“Rydym yn edrych yn fanwl ar ein math o chwarae a pwy fydd yn cyflawni hynny.”
Ar anaf Patchell, dywedodd Delaney: “Bydd Rhys mas am ryw chwech i wyth wythnos gydag anaf. Anafodd ei hamstring sydd yn siomedig iawn iddo ac i ni. Mae Rhys yn ddyn positif iawn gyda chymeriad grêt ond rwy’n ymwybodol bod y newyddion yma wedi’i siomi gan ei fod heb gael y cyfle i chwarae.
“Efallai bydd Rhys nôl ar gyfer diweddglo Cwpan yr Enfys ond bydd rhaid i ni fod yn briodol. Os gawn ni ef ar y trywydd cywir fydd hynny’n grêt.”