Mae seren y Wallabies James O’Connor wedi’i gadarnhau i fod yn rhan o garfan y Barbariaida fydd yn teithio i Barc y Scarlets ar gyfer gêm Goffa Phil Bennett ar Fedi’r 16eg.
Bydd y chwaraewr 33 oed, sydd yn gallu chwarae ar draws safleoedd y tri ôl, yn rhan o dîm rhyngwladol y Barbariaid i herio tîm Dwayne Peel yn Llanelli.
Enillodd O’Connor 72 o gapiau i Awstralia yn ystod ei yrfa a welodd yn chwarae i glybiau Western Force, Melbourne Rebels ac yn fwy ddiweddar Queensland Reds yn Super Rugby yn ogystal â chyfnod gyda Gwyddelod Llundain, Sale Sharks a Toulon.
Cafodd ei dargedu fel chwaraewr disglair yn ei arddegau, ac fe wnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf i Awstralia yn 18 oed wrth ddechrau fel maswr ym mhob Prawf yn erbyn y Llewod yn 2013.
Ymddangosodd O’Connor i dîm Awstralia A yn ystod ei gêm diweddar yn erbyn Sam Lousi a Vaea Fifita i Donga a fydd yn un o’r chwaraewyr sydd yn gobeithio derbyn galwad i dîm Eddie Jones os fydd yna anaf yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd.
Bydd mwy o enwau yn cael eu cadarnhau dros y diwrnodau nesaf, ond fe allwch brynu eich tocynnau nawr. Tocynnu i oedolion yn cychwyn am £20 ac ar gael i’w brynu o Swyddfa Docynnau’r Scarlets ar 01554 292939 neu wrth fynd i tickets.scarlets.wales