Shingler nol yn ymarfer wrth iddo edrych ymlaen at ddychwelyd

Rob Lloyd Newyddion

Cyn ailddechrau bwrlwm y Guinness PRO14 yn erbyn Benetton ar ddydd Sadwrn, bu Glenn Delaney yn siarad â’r wasg gan roi diweddariad positif am un o’n chwaraewyr rhyngwladol.

Pa mor agos yw Aaron Shingler i ddychwelyd? 

GD: “Mae Aaron nol ar y cae ymarfer ac felly rydym yn agos at ei ddychweliad. Mae’r ymarferion wedi bod yn weddol gystadleuol gydag Aaron yna. Mae’n dysgu llawer o bethau i’r bois ifanc.

“Cymerodd rhan mewn sesiwn arall heddi felly rydym yn adeiladu ei ffitrwydd. Hoffwn feddwl ei fydd yn ol ar y cae cyn hir.

“Mae’r hyn y mae’n ei wneud, sgarmesoedd statig, sgrymio ac ati yn iawn, mae angen gwella cynhwysedd yr ysgyfaint.

“Mae’r saith mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iddo, ond mae ganddo feddylfryd cryf ac yn cael ei gefnogi gan ei deulu, a nawr rydym yn canolbwyntio ar ei ddychweliad i rygbi, rhywbeth rydym yn falch iawn i weld.

“Roedd yn anaf llidol i’w gymalau. Y peth mwyaf pwysig oedd sicrhau bod hynny dan reolaeth ond mae hynny yn cymryd amser. Nawr mae hynny’n gwella mae’n amser i ail-gudio ym mhethau. Roedd hi’n gyfnod brawychus i Shings, roedd yr anaf yn newid bob dydd a gymerodd tipyn o amser i’w gael dan reolaeth. Ond rydym yn ffodus iawn bod yr arbenigwyr a oedd yn barod i helpu wedi gwneud byd o wahaniaeth.

Pa mor siomedig oedd hi i glywed am anaf Josh Macleod?

GD: “Siomedig iawn i glywed. Ffoniais i Josh y noson honno, beth wyt ti’n gallu dweud yn y sefyllfa yna? Mae’n chwaraewr anhygoel sydd yn cael amser caled ar hyn o bryd. Gall rygbi fod yn ffrind gorau ac yn gelyn ar yr un pryd.

“Er hyn, rwy’n siŵr bydd yn dod yn ôl yn gryfach. Bydd ganddo lawer o gymorth o’i hamgylch a fydd yn gwthio’i hun i fod yn chwaraewr gwell. Pan gaeth yr anaf roedd yn dechrau i’w wlad, a rhaid i ni sicrhau ei bod yn cyrraedd y safle yna eto.

“Gobeithio bydd y llawdriniaeth yn mynd yn dda a dechrau’r broses eto ar ôl iddo wella. Rwy’n edrych ymlaen at ei gael yn ôl. Mae’n chwaraewr penigamp ac yn haeddu’r cyfle i ddechrau i’w wlad eto, ac rwy’n siŵr bydd y cyfle yna yn dod iddo eto.”

Beth oedd yr ymateb yn dilyn gêm Leinster?

GD: “Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn gynhyrchiol iawn fel y disgwylir. Roedd y tîm yn cystadlu’n dda yn ystod y gêm ond roedd y ddau gais cyn hanner amser wedi creu gormod o waith i ni i allu dal i fyny ac roedd y fuddugoliaeth allan o’n gafael. Rydym wedi cymryd llawer o ffactorau o’r golled yna i allu dysgu sut i wella a dyna sut rydym yn gwella yn y garfan yma.

“Mae’r bois wedi bod yn onest iawn, ac wedi’i dadansoddi. Rhaid i ni gadw datblygu a gwella ein sgiliau a chynnal ein gwaith da, bydd yr optimistiaeth yn parhau a chawn gyfle da i fynd amdani unwaith eto ar ddydd Sadwrn.”

Mae disgwyl fydd yna gystadleuaeth frwd ar gyfer fod yn gymwys i Gwpan y Pencampwyr?

GD: “Bydd cystadleuaeth dda ymysg ein pool. Rydym yn dwli ar gystadleuaeth Ewropeaidd ac yn gystadleuaeth sydd yn ein cyffroi. Rydym am sicrhau ein bod yn cael ein cynnwys wrth symud ymlaen.”