Shings ar gael i chwarae Munster

Rob Lloyd Newyddion

Mae gobaith fydd Aaron Shingler yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets ers dros blwyddyn nos Wener yma yn erbyn Munster mewn gêm Guinness PRO14.

Mae’r chwaraewr rheng ôl rhyngwladol wedi gwella o’r broblem “rheumatological” a gafwyd haf diwethaf ac mae’n barod i ddychwelyd i’r gêm yn rownd 15 yn Thomond Park.

“Mae Shings ar gael sydd yn newyddion grêt, mae wedi ymarfer yn dda a fydd yn cael ei ystyried ar gyfer y tîm,” dywedodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney.

“Mae’r wyth mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn iddo, mae’n anaf gwahanol iawn i’w ddelio gyda, a rhywbeth annodweddiadol. Roedd rhaid sicrhau’r triniaeth cywir i wella’r broblem, ac fe lwyddon i wneud hynny, roedd yr arbenigwyr yn arbennig. Wedyn roedd angen ffocysu ar rheoli ei feddiginiaeth i ddechrau gael ei gorff i ymateb. Yn olaf roedd angen ailddechrau ei ymarferion i’w gael yn ôl yn ymddwyn fel chwaraewyr rygbi.

“Mae Aaron yn berson sydd yn dweud ei ddweud, ac pan mae’n barod i ailddechrau fe fydd yn barod i ddweud hynny. Mae’n glir iawn am hynny ac dod a’r agwedd hynny i’w chwarae. Mae’n grêt i’w gael yn ôl.”