Siaradodd Dwayne gyda’r wasg o flaen her Leinster

Rob LloydNewyddion

Siaradodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel gyda’r wasg o flaen y bedwerydd rownd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn y pencampwyr Leinster yn Nulyn.

Dyma beth oedd ganddo i ddweud …

Beth oedd yr ymateb i’r perfformiad yn erbyn Munster?

DP: “Yn amlwg roeddwn yn siomedig gyda’r perfformiad, fel cafodd ei ddweud ar ôl y gêm, roedd Munster yn well o fewn ardaloedd y ryc ac yn gorfforol. Pob clod iddyn nhw, fe ddaeth y tîm yma gyda cynllun ac wedi llwyddo i gyflawni hynny. Rydym wedi bod yn onest gyda’n hunain, wedi cymryd cyfrifoldeb fel hyfforddwyr a chwaraewyr ac rydym yn symud ymlaen. Mae gennym her mawr ac rydym yn edrych ymlaen i fynd i Ddulyn gydag agwedd da. Mae’r ymarferion wedi bod yn ddwys, mae rhaid i ni fynd nôl at beth rydym yn llwyddo gwneud yn dda, ni allwn adael y berfformiad yn erbyn Munster ein ddiffinio. Mae rhaid i ni gwthio ein safon a rhoi perfformiad sy’n adlewyrchu’r grwp a’r gwath caled sy’n cael eu wneud.”

Ydy Tomas Lezana ar gael?

DP: “Ydy, mae Tomas ar gael, mae’n grêt i’w weld nôl yma. Mae Tomas yn dod ymlaen yn dda gyda pawb, roedd yn rhan o’r garfan dros yr haf cyn iddo ymuno â’r Rugby Championship felly wnaeth hynny helpu iddo ddal i fyny gyda pawb. Mae Tomas yn cryfau ei sgiliau bob dydd ac rwy’n edrych ymlaen i’w weld yn chwarae.

Beth ydy’r diweddaraf o ran anafiadau?

DP: “O ran Scott (Williams), rydym yn cadw gofal manwl ar ei lygad, roedd tipyn o wyddo ar ôl y gêm. Yn anffodus mae angen llawdriniaeth ar Dan Davis. Cafodd anaf i’w gyhyr pectoral yn dilyn gêm Munster sydd yn siom iddo gan ei fod wedi chwarae’n dda dros yn ein gemau cyntaf o’r tymor. Ni fydd gan Sione yr amser i ddod trwy ei brotocolau cyfergyd.”

Beth am yr her o wynebu Leinster?

DP: “Byddwn yn mynd i Ddulyn lle mae tri chwarter o’r bois wedi ennill o’r blaen. Dyma’r pencampwyr yn chwarae yn eu cartref, does dim opsiwn ond i roi popeth i mewn i’r perfformiad. Rydym wedi symud ymlaen o Munster, roeddwn yn onest fel grwp ac rydym wedi ffocysu ar Leinster. Ni allwn adael Leinster i mewn i’r gêm, mae ganddyn nhw disgyblaeth cryf ac mae rhaid i ni amddiffyn yn gryf ac mae rhaid i ni gymryd bob cyfle. Mae rhaid i ni fod ar darged ym mhob agwedd o’r gêm dyna yw’r nod fory.”