Enillydd pleidlais Chwaraewr y Mis Olew dros Gymru yw Sione Kalamafoni ar gyfer mis Ionawr.
Derbyniodd y chwaraewr o Donga 69% o bleidlais y cefnogwyr i faeddu Blade Thomson a Sam Lousi am y wobr.
Roedd Ionawr yn fis heriol i’r Scarlets wrth ennill gartref yn erbyn y Dreigiau a cholli dwy gêm yn olynol yn erbyn Gleision Caerdydd, a cholled sylweddol yn erbyn y pencampwyr Leinster penwythnos diwethaf.
Seren y gêm am y fuddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau, cafodd Sione effaith mawr hefyd yn ystod gêm Gleision Caerdydd a chynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cafodd cyfergyd yn ystod yr ail gêm yn erbyn y Gleision ac o ganlyniad fe wyliodd gêm Leinster o’r eisteddle, ond mawr obeithiwn bydd yn iach ar gyfer gem nesaf PR014 y Scarlets yn erbyn Benetton ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Chwefror 20fed