Sporting Wine Club yn lansio gwin newydd i gefnogi elusen Doddie Weir

Gwenan Newyddion

Mae partner y Scarlets Sporting Wine Club wedi cydweithio â elusen Doddie Weir i helpu codi arian ar gyfer achos da i gefnogi’r cyn chwaraewr ail reng yr Alban a’r Llewod.

Cafodd Doddie ei ddiagnosio gyda clefyd Motor Neuron ac fe lansiwyd elusen My Name’5 Doddie i helpu godi arian ar gyfer ymchwil i achos MND, ymchwilio i mewn i feddigyniaeth a chreu grantiau i bobl sy’n dioddef o’r clefyd i’w galluogi i gyw bywyd mor gyflawn a phosib.

Chwaraeodd Doddie yn erbyn sawl Scarlet yn ystod ei yrfa clwb a rhyngwladol ac roedd yn gyd-chwaraewr i Ieuan Evans a Scott Quinnell ar daith y Llewod i De Affrica yn 1997.

Gwnaeth Cymru a’r Alban hefyd brwydro am gwpan Doddie Weir ym Mharc y Scarlets nôl yn yr Hydref.

Mae’r Scarlets yn falch iawn bod un o’n partneriaid masnachol yn cefnogi achos teilwng iawn fel hon.

Mae Sporting Wine Club, ei berchennog yw’r cyn chwaraewr rhyngwlador Lloegr Simon Halliday – ymwelydd cyson i Barc y Scarlets- wedi lansio ‘The Doddie’5 Blend’.

Mae Schalk Burger, a wnaeth chwarae yn yr ail reng i’r Springboks, creodd y gwin sydd yn gymysgiad o bum grawnwin, a’r cyn-Saracen Henry Fraser, sydd wedi’i barlysu o ddamwain, sydd wedi peintio’r label gyda’i geg. Bydd yr holl elw o’r gwin yn mynd i’r elusen.

Mae’r cysyniad a’r cread o’r gwin yma yn cynrychioli holl gwerthoedd y gymuned chwaraeon. Cefnogwch Doddie a’i elusen wrth fwynhau gwin da.

Archebwch nawr ar https://sportingwineclub.com/product/doddies-5-wine/