Steff Evans i wneud ei 150fed ymddangosiad i’r Scarlets

Rob Lloyd

Yr asgellwr Steff Evans fydd yn gwneud ei 150fed ymddangosiad i’r Scarlets yn ystod gêm rownd 16 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade (15:00; BBC Wales).

Chwaraewr a datblygwyd trwy Academi’r Scarlets, ymddangosodd Steff i’r garfa hyn am y tro cyntaf yn 2014 ac aeth ymlaen i fod yn chwaraewr blaenllaw yn y gystadleuaeth. Mae’r chwaraewr rhyngwladol 27 oed wedi croesi am 60 o geisiau i’r Scarlets dros wyth tymor ac yn sefyll yn seithfed ar dabl URC.

Mae Evans wedi’i enwi yn yr ochr sy’n dangos saith newid o’r tîm i chwarae penwythnos diwethaf yn Llanelli.

Gyda Liam Williams allan o ganlyniad i anaf llinyn y gar, mae Angus O’Brien yn safle’r cefnwr ac yn ymuno â Corey Baldwin ac Evans yn y tri ôl, wrth i’r capten parhau fel canolwr ac yn bartner i’w gydchwaraewr rhyngwladol Johnny Williams.

Y maswr Rhys Patchell sy’n dychwelyd o anaf ac yn ymuno â Gareth Davies fel haneri, sydd yn dod i mewn yn lle Kieran Hardy yn safle’r mewnwr.

Chwaraewr rhyngwladol arall, Ryan Elias, sydd yn dychwelyd fel bachwr, ac yn ymuno â Steff Thomas a Javan Sebastian yn y rheng flaen, wrth i Sam Lousi gwella o anaf i’w benglin, anaf a wnaeth ei orfodu i dynnu mas o gêm penwythnos diwethaf munudau cyn y gic gyntaf. Bydd y chwaraewr rhyngwladol i Donga yn bartner i Jac Price yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, mae yna un newid wrth i Josh Macleod dod i mewn yn lle Aaron Shingler, sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.

Wedi’u enwi ar y fainc mae’r prop WillGriff John ynghyg yr asgellwr Ryan Conbeer, sydd wedi croesawu ei blentyn cyntaf wythnos yma.

Dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae Rodney Parade yn lle anodd i fynd, ond rydym yn edrych ymlaen. Mae llawer o bethau i weithio ar ac rydym wedi gweithio’n galed wythnos yma. Dwi’n edrych ymlaen i weld y grwp yn cael cyfle arall. Fel dywedais wythnos diwethaf, yn hanesyddol mae canlyniadau rhwng y ddau ochr wedi bod yn agos a byddaf yn disgwyl yn debyg wythnos yma eto.”

Scarlets v Dreigiau (Dydd Sadwrn, Ebrill 16; 19:35 S4C & Premier Sports)

15 Angus O’Brien; 14 Corey Baldwin, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans; 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies; 1 Steff Thomas, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Josh Macleod, 7 Tomas Lezana, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Daf Hughes, 17 Rob Evans, 18 WillGriff John, 19 Morgan Jones, 20 Aaron Shingler, 21 Kieran Hardy, 22 Tyler Morgan, 23 Ryan Conbeer.

Ddim ar gael i chwarae

Liam Williams (hamstring), Sam Costelow (concussion), Blade Thomson (concussion), Joe Roberts (concussion), Steff Hughes (illness), Wyn Jones (knee), Johnny McNicholl (knee), Carwyn Tuipulotu (foot), Tom Rogers (ankle), Scott Williams (shoulder), Dan Jones (knee), Ioan Nicholas (ankle), Samson Lee (Achilles), Marc Jones (calf), Ken Owens (back), Tom Phillips (knee), Leigh Halfpenny (knee), Lewis Rawlins (concussion), Josh Helps (ankle).