Steff Hughes yn arwain tîm ifanc allan i’r gêm gyfeillgar

Rob Lloyd

Y canolwr Steff Hughes fydd yn arwain mas tîm ifanc i wynebu Nottingham mewn gêm gyfeillgar ar ddydd Sadwrn ym Mharc y Scarlets (cg 2:30yp).

Hughes fydd yn gapten ar dîm sydd yn cynnwys 14 chwaraewr a ddaeth trwy system datblygu’r Scarlets.

Ioan Nicholas fydd yn cychwyn fel cefnwr gyda Ryan Conbeer a Corey Baldwin – sydd wedi dychwelyd i’r Scarlets ar ôl treulio cyfnod gyda Exeter Chiefs – fel asgellwyr.

Yn bartner i Hughes yng nghanol cae mae Joe Roberts, wrth i Dan Jones ymuno â’r chwaraewr 18 oed a mewnwr Cymru Dan 20 Harri Williams, a fydd yn gwneud ei ymddangosiad hŷn cyntaf.

Yn y rheng flaen mae Kemsley Mathias, Shaun Evans — treuliodd cyfnod gyda Nottingham tymor diwethaf – a Javan Sebastian, gyda Lewis Rawlins a Morgan Jones yn cyfuno yn yr ail reng.

Gyda Tomas Lezana i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol ym Mhencampwriaeth Rygbi gyda’r Ariannin a nifer o chwaraewyr rheng ôl wedi’u hanafu, mae Tom Phillips wedi dychwelyd i ymarferion ac fydd yn cychwyn fel blaenasgellwr. Mae Sione Kalamafoni, oedd yn chwarae i’r Archers pan ddaeth i’r DU yn gyntaf, wedi’i enwi fel wythwr gyda Dan Davis ar yr ochr agored.

Mae cymysgwch o brofiad ac ieuenctid ymysg yr eilyddion gyda’r aelod newydd o’r garfan WillGriff John yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys y Scarlets. Mae Caleb Salmon ac Archie Hughes, dau chwaraewr 18 oed o system Academi’r Scarlets wedi’u henwi ar y fainc hefyd.

Dyma fydd gêm gyntaf Dwayne Peel wrth y llyw wrth iddo ddychwelyd i’r Gorllewin o Ulster.

“Mae’r chwaraewyr sydd wedi ymarfer gyda’i gilydd dros yr haf yn rhan o’r tîm ar ddydd Sadwrn. Nhw sydd wedi ennill y safleoedd hynny, ac wedi ymarfer yn gyson trwy sesiynau anodd iawn ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld ar y cae,” dywedodd Peel.

Scarlets v Nottingham (Dydd Sadwrn, Medi 4, 2021; cg 2.30pm )

15 Ioan Nicholas; 14 Ryan Conbeer, 13 Joe Roberts, 12 Steff Hughes (capt), 11 Corey Baldwin; 10 Dan Jones, 9 Harri Williams; 1 Kemsley Mathias, 2 Shaun Evans, 3 Javan Sebastian, 4 Josh Helps, 5 Morgan Jones, 6 Tom Phillips, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.

Reps: 16 Daf Hughes, 17 Steff Thomas, 18 WillGriff John, 19 Aaron Shingler 20 Caleb Salmon, 21 Archie Hughes. 22 Sam Costelow/Angus O’Brien/Tyler Morgan, 23 Johnny McNicholl/Steff Evans.