Steff Hughes yn arwyddo cytundeb newydd

Rob Lloyd Newyddion

Mae is-gapten y Scarlets Steff Hughess wedi arwyddo estyniad ar ei gontract gyda’r Scarlets.

Datblygodd Hughes trwy system Academi’r Scarlets a nawr ar ei wythfed dymor yn agosáu at wneud ei ganfed ymddangosiad yng nghrys y Scarlets.

Yn gyn-gapten ar Gymru d20, wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn ystod gêm Cwpan=LV yn erbyn Saracens yn 2013 ac ar ôl gwella o anaf difrifol i’w ben-glin mae Steff wedi mynd ymlaen i ymddangos 98 o weithiau i’r Scarlets.

Mae’r canolwr 27 oed wedi cymryd cyfrifoldeb y capten pan mae capten y clwb Ken Owens i ffwrdd â charfan Cymru dros y ddau dymor diwethaf, gan sefydlu ei hun yn gyson yng nghanol cae i’r Scarlets.

Sicrhawyd ei ddwy gais yn ystod y gêm fuddugol yn erbyn Connacht safle’r Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Heineken unwaith eto tymor nesaf.

“Dyma fy nghlwb cartref, dwi’n cofio mynd i wylio gemau yn Strade pan oeddwn yn ifanc ac rwy’n falch iawn i wisgo crys y Scarlets. Roedd arwyddo cytundeb newydd yn benderfyniad rhwydd iawn,” dywedodd Hughes, sydd yn gwella o anaf i’w ben-glin ar hyn o bryd.

“Fel grŵp, rydym yn ymwybodol nad ydyn wedi cyflawni beth oedd angen y tymor yma, ond mae llawer o dalent yn y garfan ac ar ôl ennill ein safle yng Nghwpan Pencampwyr tymor nesaf, i ni am gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop eto.

“Mae llawer o’r chwaraewyr ifanc wedi cymryd eu cyfleoedd eleni ac yn gwthio’r chwaraewyr hŷn am safleoedd. Gobeithiwn ein bod yn gorffen y tymor yn dda gyda’r ddwy gêm olaf yng Nghwpan yr Enfys ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r cefnogwyr yn ôl i Barc y Scarlets mor gynted ag sy’n bosib. Rydym wedi eu colli ar hyd y tymor.”

Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi Scarlets Jon Daniels: “mae Steff yn ymgorffi gwerthoedd y clwb. Mae’n arweinydd yn ein grŵp ac yn parhau i yrru’r safonau ar ac oddi ar y cae.

“Gan ddychwelyd o anaf difrifol mae wedi dangos ei gymeriad ac ar draws y blynyddoedd diwethaf mae wedi profi ei hun i fod yn un o’r perfformwyr mwyaf cyson yn rygbi Cymru. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi ail-arwyddo cytundeb gyda’r Scarlets.”