Steff Hughes yn edrych ymlaen at her Toulon wythnos nesaf.

Menna Isaac Newyddion

Bu Steff yn siarad gyda’r wasg yn trafod ei feddyliau ar y gêm wyth olaf sydd i ddod penwythnos nesaf. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud:

Sut mae’r pandemic yma wedi cael effaith arno chi fel tîm?

“Odde yn sefyllfa eithaf anodd, drwy ddim cael unrhyw gemau cyfeillgar cyn ddechrau’r tymor, ni wedi gweithio’n galed i fod yn rownd gynderfynol y gynghrair ond yn anffodus fe gyrrhaeddon ni ddim na, ond wnaethom ni bopeth o ni’n gallu a cael 5 pwynt mas o’r dwy gem ddiwethaf. “Un llygaid efallai yn paratoi ar gyfer y gem yma sydd i ddod, mae’n gêm bwysig i’r clwb. Ar ôl bod mas na eleni yn barod yn chwarae a colli fel wnaethon ni, ma hwn yn gêm ry’ ni’n edrych ymlaen ati.”

Dod o fewn un pwynt gyda 14 dyn, faint o hyder ydych chi’n cymryd allan o’r perfformiad os nad y canlyniad?

“Ie fi’n credu ma hwn yn gêm sy’n sefyll mas yn enwedig i fi y tymor yma. Rhwbeth ni wedi colli mas ynddo achos wnaethom ni mor dda, fe wnaethom ni rheoli’r gêm hyd yn oed gyda 14 dyn. Dwi’n credu wnaethom ni ddigon i ennill, aeth y gêm i 91 munud i’r diwedd, ni’n teimlo falle bod arno ni un i nhw ar ol y gêm yna. “Mae yna lot o hyder yn mynd mas a hefyd dwi’n credu bydd ddim cymaint o dorf gyda nhw allan yna, ac mae hwnna’n ffactor mawr i’r timoedd o ffrainc felly allwn ni ddefnyddio hwnna un maintais ni.”

Yn trafod y dorf, mae nifer o’ch cefnogwyr chi wedi bod yn teithio gyda chi fel arfer?

“Ydy, mae hwnna wedi bod yn ffantastig, amser wnaethom ni chwarae mas yna eleni, odd cerdded o’r gwesty draw i’r stadiwm yn amazing, oedd y dorf i gyd, pobl wedi trafelu draw yn cael amser da. Ble bynnag ma nhw yn y stand chi bob amser yn clywed nhw ar y cae. Mae wir yn rhoi hwb i ti. Bydden anffodus ddim cael y cefnogwyr yna ond byddan nhw yn sicr yn gwylio o adref, mae’n mynd i fod yn achlysur ardderchog.

Beth am dy le di yn y tim, dechrau 20 o gemau y tymor hyn  a 61 dyn yn y garfan, ti’n teimlo fwy o gyfrifoldeb fel un o’r arweinwyr yn y tim eleni?

“Dwi wedi bod yn lwcus, cael cyfle i chwarae gyda’r hyfforddwyr a dwi di bod yn lwcus fy mod wedi aros yn ffit drwy’r tymor felly mae hwnna wedi bod yn gret, dwi jyst yn joio bod mas yna gyda’r bois, mae grŵp ardderchog gyda ni, ni’n cael digon o hwyl yn ymarfer a chwarae, ac mae’r gystadleuaeth yn wych yn y canol, mae’n pwsho ti i wella bob dydd, sydd y peth pwysicaf ti’n gallu cael mas ohono fe.”

Johnny (Williams) yn dod mewn i mewn yn y canol yn lle Hadleigh Parkes, sut mae’r partneriaeth yna yn mynd, eto i gyd ma Jon Fox hefyd ar ei ffordd yn ôl?

“Dy ni ddim yn brin yn y canol, ma Johnny’n gret ma wedi bod yn gret i ddod i nabod ef a gweithio gydag ef, mae e’n chwaraewr cryf a phwerus, dwi’n credu ein bod wedi gweithio gyda partneriaeth da dros y ddau gêm ddiwethaf ac yn ymarfer bob dydd a cadw dysgu pethau newydd bob dydd wrtho fe a fe wrtho fi. Mae’n gret i gal Foxy nol yn ymarfer hefyd ond yn amlwg mae ef yn chwaraewr ardderchog a os allai i ddysgu ambell beth wrtho ef a’i ychwanegu i’n gem i mae’n mynd i fy helpu i. Mae wedi bod yn ffantastig gweithio gyda’r ddau yna a Tyler Morgan a Paul Asquith gyda ni hefyd sy’n chwaraewyr gret. Fel ddwedes i ni’n ceisio dysgu faint rydyn ni’n gallu wrtho’n gilydd a ma hwnna’n gret mor belled.”

Beth fyddai buddugoliaeth arall yn Toulon yn golygu i chi fel carfan o ystyried canlyniad gynharach yn y tymor?

“Byddai’n enfawr, dwi’n credu mae’n rhwbeth rydym yn haeddu ar ôl gweithio mor galed eleni ac roedd colli adref yn erbyn nhw yn rhwystredig ond dwi’n credu bod digon o obaith gyda ni i weithio’n galed a cael buddugoliaeth mas yna a gobeithio allwn ni gael rownd gynderfynol ar ôl hynny.”

“Glenn yn sôn fod y gêm yma fel ffeinal iddo fe, dim ond ddwywaith mae tîm o gymru wedi ennill y cwpan her, faint o arwyddocad ydych chi wedi rhoi ar y teitl hynny?

“Mae unrhyw dwls allwch chi ennill yn rhwybeth pwysig, gyda pencampwriaeth Ewrop chi’n rhoi eich hunain lan gyda rhai o’r timoedd gorau , ma hynny’n enfawr a mae bod yn rowndiau cyn-derfynol amser hyn o’r flwyddyn yn rhywbeth rydym ni’n anelu ato ar dechrau’r tymor, ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens yna.”

Tro diwethaf daeth Toulon i’r Parc odd hwnna’n fuddugoliaeth mawr iddyn nhw dwi’n meddwl , beth wanethoch chi ddysgu o’r gêm yna?

“Dwi’n credu o’r gêm yna odd y amgylchiadau yn siwto nhw bach yn well nag ni, odd pecyn enfawr i gael gyda nhw, felly ni’n deall y sialens sydd gyda nhw. Rydym lan yn erbyn tîm enfawr cryf pwerus, rydym yn gwybod fod angen fod yn ddisgybliedig yn ardal y dacl yn enwedig ddim yn rhoi gormod o giciau cosb bant a cadw dwysedd y gêm yn er mwyn i ni chwarae’r gêm da ni’n hoffi chwarae a ni’n dda iawn yn symud y bêl, ond hefyd mae rhaid i ni rheoli’r gêm a chwarae yn rhannau’r cywir o’r cae felly mae mynd i fod yn gyffroes iawn.”

Toulon v Scarlets, Dydd Sadwrn 19eg o Fedi, CG 20:15 (DU)