Steff Hughes yn ennill pleidlais chwaraewr y mis am fis Mawrth

Gwenan Newyddion

Y canolwr Steff Hughes sydd ar frig y bleidlais chwaraewr y mis Olew dros Gymru am fis Mawrth.

Enillodd 48% o’r bleidlais ar-lein i gipio’r wobr wrth ei gyd-ganolwr Johnny Williams, clo Sam Lousi a’r rheng ôl Aaron Shingler.

Mae Steff wedi chwarae rhan enfawr yn ystod yr ymgyrch gan arwain fel capten a sicrhau ei fod yn ddylanwad yng nghanol cae gan chwarae rhan bwysig yn y fuddugoliaeth anghredadwy yn erbyn Connacht a wnaeth ennill ein safle yng Nghwpan Pencampwyr Heineken tymor nesaf.

Mae Steff yn ymuno â Sione Kalamfoni a Jac Morgan fel yr enillwyr blaenorol yn 2021.