Steff Hughes yn manteisio ar ‘gyfle enfawr’ wrth i’r Scarlets baratoi ar gyfer dechrau newydd

Kieran Lewis Newyddion

Wrth i chwaraewyr y Scarlets fwynhau rhai diwrnodau o seibiant i ymbaratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o hyfforddi, cafom gyfle i sgwrsio gyda Steff Hughes, sy’n edrych ymlaen i’w seithfed tymor ym Mharc y Scarlets.

Mae’n rhwydd i anghofio fod y canolwr cyfarwydd ond yn 25 oed, wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan LV= yn erbyn y Saracens chwe mlynedd yn ôl.

Yn gyn-gapten Cymru dan 20, aeth Hughes heibio hanner canrif o ymddangosiadau mewn crys Scarlets dymor diwethaf. Gyda Jonathan Davies, Hadleigh Parkes a Kieron Fonotia yn debygol o fod oddi cartref yn cyflawni dyletswyddau Cwpan y Byd yn Japan, bydd ei arweinyddiaeth a phrofiad yn allweddol wrth i gem agoriadol y Guinness PRO14 yn erbyn Connacht ar Fedi 28ain.

“Mae’n gyfle enfawr imi; rwy’n edrych ymlaen i ddechrau a trio fy ngorau glas a gweld beth alla’ i wneud,” dywedodd.

“Mae bod heb y bechgyn rhyngwladol yn rhywbeth rydym wedi ymgyfarwyddo gyda dros y blynyddoedd diwethaf, yn ystod y Chwe Gwlad a gemau rhyngwladol yr Hydref, a gyda’r tymor yn dechrau’n hwyrach, mae gennym gyfle da i greu sylfaen gadarn o ffitrwydd a gweithio ar ein sgiliau rygbi yn y paratoadau cyn-tymor.”

Mae’r Haf hir hefyd yn rhoi digonedd o amser i’r chwaraewyr gyda’r tim hyfforddi newydd, gan gynnwys y prif hyfforddwr Brad Mooar a’i gynorthwyydd Glenn Delaney wedi cyrraedd yng Ngorllewin Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen i weld Brad a Glenn yn cyrraedd, i ni gyd gael bod gyda’n gilydd a dechrau arni,” ychwanegodd Hughes a arwyddodd gytundeb newydd a’r Scarlets dymor diwethaf.

“As a player it is always nice to learn new ideas from different people and to try to implement them to your game.

“Mae Rich Whiffin wedi bod yma ers rhai wythnosau ac mae wedi bod yn wych i ddysgu syniadau newydd wrtho; mae Dai (Flanagan) wedi bod yma ers rhai blynyddoedd o gwmpas yn y garfan ac mae’n wych i weithio gydag e’n iawn nawr.

“Mae’n ddechrau newydd i bawb ac rydym ni i gyd yn mwynhau.

“Mae gennym fewnbwn newydd, syniadau newydd ac mae wedi bod yn wych. Mae’r tywydd wedi bod yn boeth sydd wedi gwneud y paratoadau cyn-tymor yn heriol, ond mae’r bechgyn yn gweithio’n galed a ‘dw i wedi mwynhau.”

Why not join the pack and secure your season ticket for what promises to be a hugely exciting 2019-20 season by going to http://www.scarletsseasontickets.wales