Teddy yw enillydd pleidlais chwaraewr y mis am fis Tachwedd

GwenanNewyddion

Teddy Leatherbarrow yw eich enillydd am bleidlais chwaraewr y cefnogwyr y mis am fis Tachwedd.

Y blaenasgellwr, a gyrrhaeddodd yn Llanelli o Brifysgol Loughborough yn yr haf, sydd wedi gwneud sawl perfformiad cofadwy yng nghrys rhif 7, gan wynebu cyn chwaraewr y byd Josh van der Flier yn Nulyn a gwneud 23 tacl yn erbyn y Gweilch.

Fe gurodd Leatherbarrow y maswr Ioan Lloyd, Gareth Davies, Vaea Fifita a Ryan Elias i ennill y wobr.

Llongyfarchiadau i Margaret Killen, sydd wedi ennill tocyn teulu i gêm Dydd San Steffan yn erbyn y Gweilch.