Tîm datblygedig yn colli yn erbyn Gweilch A

Rob Lloyd Newyddion

Gweilch A oedd yn fuddugol ym Mharc y Scarlets ar ôl trechu’r tîm datblygedig Scarlets o 33-10 mewn gêm llawn cyfleoedd i’r talent ifanc yn y ddwy ochr.

Yr ymwelwyr rhoddodd berfformiad clinigol, gan ymosod ar gamgymeriadau’r Scarlets yn enwedig yn yr hanner cyntaf.

Er hynny, fe barhaodd y Scarlets i chwarae a llwyddo i sgori cais yn yr ail hanner trwy’r cefnwr ifanc Eddie James.

Er mai y Gweilch oedd yn fuddugol, fe lwyddodd bois ifanc y Scarlets ennill digon o brofiad o flaen cynulleidfa ym Mharc y Scarlets.

Y Gweilch oedd dros y llinell gais yn gyntaf ar ôl ond chwe munud gyda’r canolwr Callum Carson yn buddio o gyfnod o bwysau gan yr ymwelwyr ar y llinell gartref.

Roedd tîm y Gweilch yn dathlu’r ail gais pan gipiodd y blaenasgellwr Will Hickey y bel a chroesi’r llinell gyda’r cefnwr Cai Evans yn trosi’r ddau gais i ymestyn y sgôr 14-0.

Yr wythwr Carwyn Tuipulotu cafodd ei gyfle i groesi am y cais gyntaf i’r Scarlets, ond trosedd yng nghysgod y pyst wnaeth ei rhwystro rhag ymosod.

Gyda llinell y Gweilch yn achosi problemau i’r tîm cartref, fe ddaeth y trydedd gais ar 35 munud trwy’r blaenasgellwr nodiadol Harri Deaves a’r trosiad unwaith eto gan Evans.

Roedd y Scarlets yn edrych yn beryglus pan yn cadw’r bel, gan ymosod o tu fewn ei 22 am gic gosb hir gan Rhys Patchell ar chwiban hanner amser.

Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda llawer o antur i’r tîm cartref gyda’r capten Joe Roberts yn agos ar sawl adeg.

Er hynny, y Gweilch llwyddodd i droi’r bel drosodd yn yr ardal gwrthdaro ac fe aeth y cyfleoedd yn sydyn i’r tîm datblygedig y Scarlets.

Y cyn Scarlet Osian Knott a Tuipulotu derbynodd cardiau melyn am dacl anghyfraethlon wrth i’r ddau ochr dod a’u eilyddion ymlaen i’r cae.

Ac yr ymwelwyr enillodd eu pedwerydd cais trwy’r maswr Josh Thomas hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Gyda’u dyfalbarhad, fe wnaeth y Scarlets gwibio heibio’r llinell gais am y trydedd tro o’r noson gyda’r asgellwr James yn newid i safle canolwr am yr ail hanner, yn ffeindio bwlch yn amddiffyn y Gweilch cyn croesi.

Er hynny, yr ymwelwyr cafodd y gair olaf trwy’r eilydd Josh Carrington yn torri trwy’r amddiffyn am y bumed cais o’r gêm.