Tîm y Scarlets i wynebu La Rochelle

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener 30ain Mawrth, cic gyntaf 5.30pm, gyda’r Scarlets yn wynebu La Rochelle.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu her rownd wyth olaf Ewropeaidd am y tro cyntaf mewn un-ar-ddeg mlynedd.

Ar ôl gorffwyso nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn dilyn pencampwriaeth y Chwe Gwlad mae Wayne Pivac wedi gal war brofiad y capten Ken Owens, capten yr Alban John Barclay a’r mewnwr Gareth Davies ar gyfer gêm nos Wener.

Mae’r linell ôl bron yn llawn chwaraewyr rhyngwladol gyda Davies yn partneri Rhys Patchell yn yr hanneri, Scott Williams a Hadleigh Parkes yn y canol gyda Paul Asquith yn cyfuno yn y tri ôl ochr yn ochr â Steff Evans a Leigh Halfpenny.

Daw’r reng flaen rhyngwladol o Rob Evans, Ken Owens a Samson Lee nôl ynghyd gyda Tadhg Beirne a David Bulbring yn yr ail reng. Mae’r reng ôl adnabyddus o Aaron Shingler, James Davies a John Barclay hefyd yn ail gyfuno.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Mae’n gyffrous. Mae La Rochelle yn hoffi symud lot o’r bêl. Fe fydd yn gêm arbennig i’w gwylio mae’n siwr.

“Fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau, nid yn unig yn ymosodol ond yn amddiffynol hefyd. Ry’n ni’n paratoi ac yn barod beth bynnag fydd y tywydd.

“Mae hwn yn gêm fawr. Fe fydd yn rhaid i ni fod yn gorfforol i’w wynebu yn y pac.”

.

Tîm y Scarlets i wynebu La Rochelle yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop, Parc y Scarlets, Gwener 30ain Mawrth, cic gyntaf 17:30;

15 Leigh Halfpenny, 14 Paul Asquith, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 David Bulbring, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion; Ryan Elias, Dylan Evans, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Will Boyde, Aled Davies, Dan Jones, Josh Macleod