Tîm y Scarlets i wynebu Leinster

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Leinster i Barc y Scarlets nos Wener yn y gêm a ail drefnwyd yn y Guinness PRO14.

Fe fydd cyn asgellwr Lloegr Tom Varndell yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Scarlets a’i gêm gyntaf yn y Guinness PRO14 wrth iddo gael ei enwi yn y linell gefn, ar ôl arwyddo cytundeb tymor byr gyda’r rhanbarth yn gynharach yr wythnos hon.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud un newid i’r linell gefn a ddechreuodd yn erbyn Ulster gyda Ryan Conbeer yn dod i mewn yn lle Corey Baldwin, sydd wedi dychwelyd at garfan Cymru dan 20 ar gyfer yr ornest yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad.

Gwelwn dau newid i’r pac gyda Phil Price yn dechrau ei gêm gyntaf i’r rhanbarth oherwydd salwch i Dylan Evans a Will Boyde yn safle’r wythwr gyda Josh Macleod yn symud i’r blaenasgell agored gyda James Davies yn disgwyl ennill ei gap cyntaf prynhawn Sul.

Wrth edrych yn ôl ar y gêm yn erbyn Ulster dywedodd Wayne Pivac; Roedd y gêm yna’n fonws go iawn i ni. Fe wnaethon fynd i mewn i’r gêm gyda phwysau i ennill. Mae gyda ni record balch iawn adre ac roedd hwn yn agored i’w dwyn.

“Fe wnaethon ni gymryd ein cyfleoedd ac roedd y pwynt bonws yn bleser hefyd. Ar ôl y gêm yma nos yfory fe fydd y bois rhyngwladol yn ôl gyda ni. Mae’n gyfnod cyffrous iawn.

.

“Mae gan Leinster lot fawr o fygythiadau ac fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau i sicrhau canlyniad.”

Tîm y Scarlets i wynebu Leinster;

15 Tom Williams, 14 Ioan Nicholas, 13 Paul Asquith, 12 Steff Hughes ©, 11 Ryan Conbeer, 10 Dan Jones, 9 Jonathan Evans, 1 Phil Price, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Steve Cummins, 5 David Bulbring, 6 Tadhg Beirne, 7 Josh Macleod, 8 Will Boyde

Eilyddion; Emyr Phillips, Rhys Fawcett, Simon Gardiner, Josh Helps, Lewis Rawlins, Declan Smith, Ioan Hughes, Tom Varndell