Tocynnau ar gyfer pob gêm gartref ar werth nawr

Kieran Lewis Newyddion

Mae tocynnau ar gyfer ein holl gemau cartref ym Mharc y Scarlets yn nhymor 2019-20 bellach ar werth yn yr hyn sy’n addo i fod yn frwydr wefreiddiol i wrthdaro ar gyfer lle yn gemau wyth-olaf y Guinness PRO14.

Mae’r gemau yn erbyn Caeredin (Chwefror 15), Isuzu Southern Kings (Chwefror 23), y Dreigiau (Mawrth 28), y buddugwyr y llynedd, Leinster (Mai 9) a Munster (Mai 16) bellach ar gael i’w prynu, gyda chynigion gostyngedig cynnar ar gael ar gyfer pob un o’r gemau hynny.

Fel rhan o’n pecyn tocynnau tymor 2019-20, y gwrthdaro gyda’r Dreigiau ym mis Mawrth fydd y gêm lle gall deiliaid tocynnau tymor ddod â ffrind am ddim, peidiwch golli allan ar y cyfle gwych hwn!

Am yr holl wybodaeth am docynnau, ewch i tickets.scarlets.wales neu fel arall ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01554 292939