Dewch Scarlets, hen ac ifanc, dewch i’r gâd! Mae’n hysbryd ar dân ac mae’n amser i ni ddod at ein gilydd ar gyfer tymor 2025-26!
Llwyddodd y Scarlets i sicrhau buddugoliaeth holl bwysig o 23-22 dros y Vodacom Bulls ym Mharc y Scarlets ym mis Hydref, gyda pherfformiad syfrdanol a cheisiau unigol gwych gan yr asgellwyr Blair Murray a Tom Rogers.
Dyma oedd cychwyn cyfnod arbennig yn y Parc y Scarlets gyda chwe buddugoliaeth o’r chwe gêm gartref diwethaf, y mwyaf diweddar yn erbyn Caeredin ym mis Ionawr.
Boed eich bod yn ddaliwr tocyn tymor ers cyfnod, neu’n ymuno â ni am y tro cyntaf, mae tymor nesaf yn addo bod yn un gwefreiddiol o dan arweiniad arwyr ifanc a chyffrous y Scarlets.
Fe fydd Tocyn Tymor y Scarlets, boed yn eistedd neu’n sefyll, yn sicrhau eich bod chi reit yng nghanol y cyffro.

DYDDIADAU PWYSIG
- Adnewyddwch / prynnwch eich Tocyn Tymor cyn ddydd Llun 31ain Mawrth ac fe wnewn ni hepgir y ffi archebu o £5
- Mae prisiau cynnar ar gael o ddydd Mercher 12fed Mawrth tan ddydd Sadwrn 31ain Mai, 2025
- Os ydych chi’n ddaliwr tocyn tymor 2024-25 fe fydd eich sedd yn ddiogel tan ddydd Llun 30ain Mehefin

BUDDIANAU TOCYN TYMOR
Yn ogystal â chael mynediad i 11 gêm gartref ym Mharc y Scarlets, fe fydd Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys nifer o fuddianau unigryw.
Mae buddianau Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys;
- Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle’r Scarlets yn Mharc y Scarlets cyn yr arwerthiant cyhoeddus
- Mynediad am ddim i holl gemau graddau oed y Scarlets yn ystod 2025-26
- Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw fydd yn cynnwys rheolwyr, chwaraewyr ac hyfforddwyr y clwb
- Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2025-26
- Cyfle i ennill taith tu ôl i’r llenni o’r stadiwm ar ddiwrnod gêm
- Gostyngiad oddi ar fwyd a diod ar ddiwrnodau gêm ym Mharc y Scarlets
- Gostyngiad oddi ar becynnau lletygarwch ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gemau’r Scarlets (gemau cynghrair URC arferol a gemau grwp EPCR yn unig)
- Gostyngiad oddi ar docynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, i’w cadarnhau
CYFLWYNO FFRIND
Os ydych yn ddaliwr Tocyn Tymor 202-26 ac yn cyflwyno cwsmer newydd pan fyddwch chi’n adnewyddu ar gyfer tymor 2025-26, fe fyddwch chi’ch dau yn derbyn £20 oddi ar bris eich Tocyn Tymor. Er mwyn derbyn y gostyngiad, fe fydd yn rhaid i’r cwsmer newydd
- fod yn newydd i system Tocynnau Tymor y Scarlets
- heb fod yn ddaliwr tocyn tymor dros y dair mlynedd diwethaf
- dros 16 mlwydd oed
ADNEWYDDU / PRYNU
I ddarllen mwy am ein pecynnau Tocyn Tymor, prisiau a buddianau, cliciwch yma
I adnewyddu eich Tocyn Tymor, cliciwch yma
Os oes gennych gwestiynau pellach, neu’n methu cael mynediad i’ch cyfrif arleing presennol, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 neu ebostiwch [email protected]