Tomas Lezana i ddechrau i’r Scarlets yn Nulyn

Gwenan Newyddion

Bydd chwaraewr rhyngwladol yr Ariannin Tomas Lezana yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn ystod y bedwaredd rownd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar Ddydd Sadwrn yn erbyn pencampwyr Leinster yn y RDS Arena yn Nulyn (17:15 S4C/Premier Sports).

Mae chwaraewr rheng ôl y Pumas wedi gwella o’i anaf i’w hamstring a gafwyd yn ystod ymgyrch y Rugby Championship, ac yn un o saith newid i’r tîm sy’n cynnwys dau newid safle o dîm penwythnos diwethaf yn erbyn Munster ym Mharc y Scarlets.

Ioan Nicholas fydd yn cychwyn fel cefnwr gyda Johnny McNicholl – un o 10 Scarlets sydd wedi’u henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref – yn symud i’r asgell dde. Ryan Conbeer sydd yn cymryd safle Steff Evans ar yr asgell chwith.

Capten Jonathan Davies fydd yn bartner i Johnny Williams yng nghanol cae gyda Williams yn llenwi safle Scott, sydd heb wella o’r anaf i’w lygad o Ddydd Sul diwethaf. Bydd Sam Costelow a Gareth Davies yn parhau fel haneri.

Yn y rheng flaen bydd y ddau Lew Wyn Jones a Ken Owens yn ymuno â WillGriff John.

Mae pen-glin Sam Lousi wedi gwella a fydd yn ymuno â Lloyd Ashley fel clo felly mae Aaron Shingler yn symud i flaenasgellwr gyda Blade Thomson yn newid draw i’r rheng ôl i lenwi lle Sione Kalamafoni sydd yn dilyn protocolau dychwelyd i chwarae.

Mae Lezana yn dod i mewn yn lle Dan Davis, sydd wedi derbyn anaf i’w gyhyr pectoral yn ystod gêm Munster a fydd angen llawdriniaeth i wella’r anaf.

Ar y fainc, mae Rob Evans, Ryan Elias a Samson Lee ar gyfer y rheng flaen, gan ymuno â’r clo Morgan Jones, Shaun Evans, Kieran Hardy, Dan Jones a Tom Rogers.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Byddwn yn chwarae’r pencampwyr yn eu cartref felly does dim opsiwn ond i gamu i fyny. Dyna beth sy’n ein hannog. Mae rhaid i ni gadw ein disgyblaeth, mae rhaid i ni gymryd ein cyfleoedd a bod ar darged. Mae’n gêm fawr i ni gan i’r gwrthwynebwyr fod o safon ryngwladol. Bydd rhaid i’n safon fod ar lefel uchel trwy gydol y gêm, dyna’r ffeithiau.”

Scarlets team v Leinster (RDS Arena; 17:15; S4C/Premier Sports)

15 Ioan Nicholas; 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens, 3 WillGriff John, 4 Lloyd Ashley, 5 Sam Lousi, 6 Aaron Shingler, 7 Tomas Lezana, 8 Blade Thomson

Reps: 16 Ryan Elias, 17 Rob Evans, 18 Samson Lee, 19 Morgan Jones, 20 Shaun Evans, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Tom Rogers.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Liam Williams (appendix), Tom Phillips (knee), Josh Helps (Achilles), Sione Kalamafoni (Concussion), Scott Williams (eye), Josh Macleod (Achilles), Rhys Patchell (calf), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Tom Prydie (foot), Carwyn Tuipulotu (finger).