Tommo yn camu o flaen y camera wrth i Gwpan Rygbi’r Byd agosáu

Kieran Lewis Newyddion

Wrth i Gwpan Rygbi’r Byd agosau, rhoddodd Tommo, cyhoeddwr stadiwm y Scarlets, ei feicroffon i’r neilltu a chamu o flaen y camera i sôn am ei atgofion o Barc y Strade hyd heddiw.

Croesawyd criw ffilmio o gwmni cynhyrchu Orchard i Barc y Scarlets i ffilmio rhan o gyfres Chwedloni ar S4C sy’n olrhain straeon cofiadwy. Y tro hwn, byd rygbi, ei ddiwyllliant a threftadaeth, sydd dan sylw gyda wynebau a lleisiau cyfarwydd yn sôn am y straeon sydd wedi aros yn y cof.

Y stori sydd wedi dylanwadu fwyaf ar y cyhoeddwr stadiwm hyd heddiw yw geiriau ysbrydoledig y gŵr o’r mynydd, Ray Gravell, i Tommo yn ystod ei ddyletswydd cyntaf fel cyhoeddwr yng ngêm dysteb Grav yn erbyn Caerfaddon.

Dywedodd Grav wrth Tommo am beidio oedi cyn gwneud rhywbeth, “jyst cer amdani!”

Cyn yr ornest yn erbyn La Rochelle a sicrhaodd le i’r Scarlets yn rownd gyn-derfynol Cwpan Ewrop llynedd, cofiodd Tommo am eiriau Grav, gan fynnu bod anthem y Scarlets ac un o ffefrynnau Grav, Yma o Hyd gan Dafydd Iwan, yn cael ei chwarae ar yr uwch-seinydd cyn y gêm.

Roedd yr awyrgylch yn wefreiddiol wrth i’r dorf godi eu baneri a chanu wrth wylio’r Scarlets yn ennill 29-17.

Bydd rhaglen gyntaf o’r gyfres hon o Chwedloni ar S4C ganol mis Awst.