Tri newid i’r Scarlets cyn wynebu Connacht

Rob Lloyd Newyddion

Bydd y Scarlets yn gwynebu Connacht yn Galway nos Sadwrn gyda’r tîm yn dangos tri newid o’r tîm a heriodd Zebre yn rownd 5 o’r Guinness PRO14.

Maswr Dan Jones sydd yn cipio crys rhif 10 yn lle Angus O’Brien, sydd wedi ei enwi ar y fainc.

Gwelir Sam Lousi yn ail-ymuno â’r pac yn dilyn gwaharddiad, ac Ed Kennedy yn cymryd lle Uzair Cassiem fel blaenasgellwr.

Ar y fainc, bachwr Daf Hughes fydd yn cael ei brofiad cyntaf o rygbi ers dioddef anaf ar ei ben-glin ym mis Ionawr, a fydd y prop Phil Price nôl yn y garfan ar ôl seibiant yn ystod gêm Zebre.

Dywedodd prif-hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Roedd y 30 munud cyntaf yn anhygoel ar ein rhan ni yn erbyn Zebre, ac fe fyddwn yn disgwyl am fwy o hynny. Fe gymrwyd nifer o bethau positif allan o’r penwythnos diwethaf, ac mae angen i ni weithio ar ein gwendidau hefyd.

“Ar ôl colli mas ar chwarae dros y ddau benwythnos diwethaf, bydd Connacht yn edrych ‘mlaen i wynebu ni. Maen nhw’n dîm cryf, yn enwedig wrth chwarae adre, ac fe fyddwn yn bwriadu chwarae gyda’r un angerdd a’r tro diwethaf pan ddaeth y tîm bant yn fuddugol.”

Scarlets (v Connacht; Dydd Sadwrn, Tachwedd 14; The Sportsground 19:35 CG)

15 Johnny McNicholl; 14 Ryan Conbeer, 13 Steff Hughes (capt), 12 Paul Asquith, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Dane Blacker; 1 Rob Evans, 2 Taylor Davies, 3 Javan Sebastian, 4 Sam Lousi, 5 Morgan Jones, 6 Ed Kennedy, 7 Jac Morgan, 8 Sione Kalamafoni.

Reps: 16 Daf Hughes 17 Phil Price 18 Werner Kruger 19 Danny Drake 20 Uzair Cassiem 21 Will Homer 22 Angus O’Brien 23 Tyler Morgan.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Ken Owens (shoulder), Josh Macleod (hamstring), Lewis Rawlins (neck), Marc Jones (groin), Tomi Lewis (knee), Alex Jeffries (elbow), Jac Price (concussion), Aaron Shingler.