Mae Liam Williams, Gareth Davies a Ken Owens wedi’u henwi yn nhîm y Llewod sydd i wynebu’r Cell C Sharks yn Emirates Airline Park ar ddydd Mercher (cic gyntaf am 6yh BST).
Cafodd Liam a Gareth eu enwi ymysg XV a welwyd sawl newid gyda Ken wedi’i enwi ar y fainc. Dyma fydd gêm cyntaf Gareth yn crys y Llewod ar ôl profi ei werth ar ddydd Sadwrn gan ddod oddi’r fainc i groesi’r llinell a curo’r Sigma Lions.
Dyma’r ail gêm o’r daith yn y gyfres 2021 Castle Lager Lions ac fydd yn gorffen gyda tair gêm Prawf yn erbyn pencampwyr y byd y Springboks. Mae’r gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Sports.
“Ychydig o amser sydd gyda ni o ddydd Sadwrn, ond fe fyddwn yn barod amdani erbyn nos Fercher,” dywedodd prif hyfforddwr y Llewod Warren Gatland.
“Rwy’n falch ein bod wedi llwyddo i ddod trwy’r gêm ar y penwythnos heb unrhyw anafiadau, mae’r bois wedi gorffwys ac yn barod. Rydym yn teimlo ein bod yn adeiladu yn araf, ond, mae dal lle i wella yn ein gêm.
“Mae nos Fercher yn gyfle arall i ni rhoi shot ar gyfuniadau newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut fydd y rheng ôl yn gweithio; mae’n gyfuniad cyffroes ac un rydym yn gobeithio bydd yn cynnig rhywbeth newydd.
“Disgwylir prawf corfforol yn erbyn ochr sydd yn enwog am ei pwer wrth chwarae a’i dyflabarhad.”
CELL C SHARKS v THE BRITISH & IRISH LIONS: Dydd Mercher 7 Gorffennaf 2021
Emirates Airline Park, Johannesburg. Cic gyntaf: 6yh (BST)
15. Liam Williams (Scarlets, Wales); 14. Anthony Watson (Bath Rugby, England), 13. Elliot Daly (Saracens, England), 12. Bundee Aki (Connacht Rugby, Ireland), 11. Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Scotland); 10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales), 9. Gareth Davies (Scarlets, Wales); 1. Mako Vunipola (Saracens, England), 2. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England), 3. Zander Fagerson (Glasgow Warriors, Scotland), 4. Iain Henderson – Captain (Ulster Rugby, Ireland), 5. Adam Beard (Ospreys, Wales), 6. Josh Navidi (Cardiff Rugby, Wales), 7. Tom Curry (Sale Sharks, England), 8. Sam Simmonds (Exeter Chiefs, England).
Replacements: 16. Ken Owens (Scarlets, Wales), 17. Rory Sutherland (Worcester Warriors, Scotland), 18. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland), 19. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 20. Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland), 21. Conor Murray (Munster Rugby, Ireland), 22. Stuart Hogg (Exeter Chiefs, Scotland), 23. Chris Harris (Gloucester Rugby, Scotland).