Tri Scarlet wedi’u henwi i chwarae’r Springboks

Rob Lloyd Newyddion

Mae Wyn Jones, Ken Owens a Liam Williams wedi’u henwi yn 23 y Llewod sydd i wynebu’r Springboks yn Prawf agoriadol yn Cape Town ar ddydd Sadwrn (5yh amser DU).

Mae Wyn yn cael ei wobrwyo am ei lwyddiant yng ngrys rhif 1 yn ystod y daith, wrth i Ken a Liam, sydd wedi gwella o anaf i’w ysgwydd, gael eu henwi ymysg yr eilyddion.

Bydd capten y daith Alun Wyn Jones (Gweilch, Cymru) yn arwain yr ochr ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd a gafwyd yn ystod y fuddugoliaeth 28-10 yn erbyn Japan yn stadiwm Murrayfield ond 24 diwrnod yn ôl.

Wrth hyn, bydd y clo yn ennill ei degfed cap Prawf yn olynol i’r Llewod yn Cape Town, ac yn ymuno â arwyr y Llewod sydd wedi ymddangos mewn 10 Prawf neu fwy, gan gynnwys Gareth Edwards (10), Graham Price (12), Mike Gibson (12), Dickie Jeeps (13) a Willie-John McBride (17). Jones ydy’r unig chwaraewr i chwarae 10 Prawf i’r tîm yn yr oes proffesiynol.

“O fewn y pedwar daith fel hyfforddwr y Llewod, dyma’r dewis anoddaf dwi wedi bod yn rhan ohono,” dywedodd prif hyfforddwr Warren Gatland.

“Mae pob un ohonynt wedi rhoi eu gorau glas, ac mae’r penderfyniad ar gyfer y XV i ddechrau wedi bod yn anodd iawn. Bysen ni wedi bod yn hapus gyda unrhyw gyfuniad ar hyd y 23, ond rydym yn hapus iawn gyda’r dewis rydym wedi penderfynu.

“Rydym yn ymwybodol o’r her ar ddydd sadwrn. Bydd rhaid i ni fod yn gorfforol iawn o’r cychwyn. Pan chwaraeon ni tîm ‘A’ De Affrica wuthnos diwethaf, cymerodd y bois rhy hir i setlo i mewn i’r gêm, ni methu gwneud yr un camgymeriad eto.

“Maen rhaid i ni chwarae yn yr ardaloedd cywir o’r cae, a nid i roi’r mantais i ffwrdd a cymryd bob cyfle.

“Tra fydd y seddle’n wag yn stadiwm Cape Town, byddwn yn ymwybodol o’r holl cefnogwyr nôl adre’ sy’n ein cefnogi. Fe wnewn ein gorau i ennill.”

Dyma fydd y prawf gyntad o’r gyfres Castle Lager Lions a fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Sky Sports.

DE AFFRICA v Y LLEWOD

15 Stuart Hogg (Exeter Chiefs, Scotland); 14. Anthony Watson (Bath Rugby, England),  13. Elliot Daly (Saracens, England), 12. Robbie Henshaw (Leinster Rugby, Ireland), 11. Duhan van der Merwe (Worcester Warriors, Scotland); 10. Dan Biggar (Northampton Saints, Wales), 9. Ali Price (Glasgow Warriors, Scotland); 1. Wyn Jones (Scarlets, Wales), 2. Luke Cowan-Dickie (Exeter Chiefs, England), 3. Tadhg Furlong (Leinster Rugby, Ireland),  4. Maro Itoje (Saracens, England), 5. Alun Wyn Jones – captain (Ospreys, Wales), 6. Courtney Lawes (Northampton Saints, England), 7. Tom Curry (Sale Sharks, England), 8.Jack Conan (Leinster Rugby, Ireland).

Replacements: 16. Ken Owens (Scarlets, Wales), 17. Rory Sutherland (Worcester Warriors, Scotland),  18. Kyle Sinckler (Bristol Bears, England),  19. Tadhg Beirne (Munster Rugby, Ireland), 20. Hamish Watson (Edinburgh Rugby, Scotland),  21. Conor Murray (Munster Rugby, Ireland), 22. Owen Farrell (Saracens, England),  23. Liam Williams (Scarlets, Wales).