Triawd y Scarlets ar fenthyg i Nottingham

Rob Lloyd Newyddion

Mae blaenwyr y Scarlets Shaun Evans, Jac Price a Harri O’Connor wedi ymuno â chlwb yr uwch gynghrair Saesneg Nottingham RFC ar fenthyg.

Gyda Phencampwriaeth Greene King IPA yn cychwyn ar y penwythnos, mae’r triawd wedi ymuno â’r clwb o ganolbarth Lloegr i gael amser chwarae holl bwysig dros yr wythnosau a misoedd diwethaf.

Mae’r bachwr Evans, 24, wedi ymddangos mewn dwy gêm y tymor hwn fel eilydd yn ystod y gemau datblygedig yn erbyn y Gweilch a’r Dreigiau.

Gwnaeth Price, 20, ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 yn erbyn Caeredin ym mis Tachwedd, ac ymddangosodd mewn tair gêm cyn derbyn anaf i’w ben-glin yn ystod ymarfer.

Mae’r prop pen-tynn O’Connor, 20, wedi gwneud un ymddangosiad i’r Scarlets yn erbyn y Dreigiau ym mis Hydref.

Fe ymunwn a’r canolwr Joe Roberts sydd ar fenthyg. Mae Roberts wedi ymuno â chlwb Ampthill RFC ar gytundeb dau fis.

Mae Nottingham yn cychwyn ei ymgyrch yn y bencampwriaeth ar ddydd Sul yn erbyn Ealing.