Wedi ei ganslo: Ulster v Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r PRO14 yn cadarnhau bod gêm Rownd 4 Cwpan yr Enfys Guinness PRO14 rhwng Ulster Rugby a’r Scarlets methu mynd yn ei flaen oherwydd profion bositif o Covid-19 yng ngharfan Ulster.

Mae Ulster yn cynorthwyo pedwar chwaraewr sydd wedi profi’n bositif am Covid-19, ac felly o ganlyniad, mae’r gêm yn erbyn y Scarlets â trefnwyd ar gyfer dydd Sadwrn methu mynd yn ei flaen. Mae’r rownd diweddaraf o brofion PCR gan Ulster, a chafodd ei wneud ddoe, wedi dychwelyd pedwar canlyniad positif. Mae’r unigolion yma yn hunan ynysu gan ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus wedi derbyn y gwybodaeth yma ac mae Ulster yn parhau i ddilyn broses olrhain mewnol. Mae profion PCR pellach ar gyfer chwaraewyr a staff wedi’i drefnu fory ac mae holl ymarferion i’r carfan hyn a’r Academi wedi’i gohirio.

Gan wneud y penderfyniad yma mae’r gynghrair ac Ulster wedi dilyn arweiniad sefydlwyd gan Gyngor Meddygol y PRO14 ac wedi derbyn cefnogaeth llawn gan yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus.

Gan nad oes unrhyw penwythnosau ar ôl, ni fydd y gêm yn cael ei aildrefnu. O ganlyniad, bydd y PRO14 yn dilyn protocol gytunwyd cyn cychwyn y tymor 2020/21 lle mae gêm sydd methu cael ei aildrefnu yn derbyn canlyniad o 0-0, ond mae pedwar pwynt yn cael ei wobrwyo i’r tîm a oedd ddim wedi achosi’r gohiriad.

Felly yn yr achos yma, bydd y Scarlets yn derbyn y pedwar pwynt. Mae’r protocol yma i sicrhau nad oes sgorio ffug yn cael ei ychwanegu i’r colofnau o ran ceisiadau/pwyntiau.

Bydd y 500 o gefnogwyr oedd fod mynychu’r gêm yn derbyn ad-daliad llawn.