Mae prop y Scarlets WillGriff John wedi’i rhyddhau o garfan Cymru o flaen y Prawf olaf o gyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia ar Ddydd Sadwrn.
Derbyniwyd John ergyd i’w ben yn ystod munudau agoriadol o’r gêm fuddugol wythnos diwethaf yn erbyn Fiji ac mae’n dilyn protocolau asesiad i’r pen.
Dywedodd URC mewn datganiad: “Mae WillGriff John o’r Scarlets a Will Rowlands o’r Dreigiau wedi’u rhyddhau o garfan Cymru. Ni fydd y ddau chwaraewr yn ymddangos yn y gêm olaf o Gyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia.
Yn y cyfamser, mae hyfforddwr y blaenwyr Jonathan Humphries wedi canu clod i’r bachwr Ryan Elias, sydd wedi rhoi perfformiadau cryf yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn y Springboks a Fiji.
“Mae Ryan wedi chwarae mwy neu lai tri 80 munud. Dw i’n teimlo’n gryf mai ei berfformiadau ydy un o’r pethau mwyaf i ddod allan o’r ymgyrch yma, mae’n ffactor bositif iawn i ni,” dywedodd cyn bachwr Cymru Humphreys.
Roeddwn yn ymwybodol byse un neu ddau broblem wrth fynd i mewn i gêm Seland Newydd. Ond mae wedi cryfhau
“Mae Ryan yn grwt fawr, 112kg ac yn gallu rhannu ei bwysau. Mae’n arwain y blaenwyr a dw i wrth fy modd iddo. Roedd angen y cyfle arno i chwarae, cychwyn yn dda, a chwarae’n dda.