Wyn Jones yn arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets!

Rob Lloyd Newyddion

Mae prop Cymru Wyn Jones wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r Scarlets.

Yn cael ei adnabod fel un o bropiau pen tynn gorau’r wlad, fe wnaeth Wyn ei 100fed ymddangosiad i’r Scarlets yn ddiweddar.

Chwaraeodd i’w dim cartref the Drovers yn y Uwch Cynghrair cyn iddo gael ei gêm gyntaf i’r Scarlets yn 2014.

Ers hynny, mae wedi ennill 22 o gapiau i’w wlad ac roedd yn aelod o’r garfan wnaeth ennill y Guinness PRO12 yn 2017.

“Rwy’n mwynhau chwarae yma, mae gan y clwb amgylchedd da ac felly roedd yn benderfyniad rhwydd i aros” dywedodd Wyn, sydd erbyn hyn ar ei wythfed tymor gyda’r Scarlets.

“Mae’r garfan yma yn gryf iawn a gyda chymysg da o brofiad ac ieuenctid sydd yn ddigon parod i weithio’n galed, ac mae gennym uchelgais i gystadlu gyda’r gorau yn y PRO14 ac yn Ewrop.

“Teimlais falchder mawr wrth wneud fy 100fed ymddangosiad i’r clwb ac er fy mod yn 28 mlwydd oed, mae gen i lawer mwy i roi a gobeithio fe gai’r cyfle i brofi hynny yn y crys Scarlets.”

Cafodd ei gap cyntaf yn ystod taith 2017 yn erbyn Tonga, ac Jones oedd dewis cyntaf yn safle’r pen tynn ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan.

Mae’n brop pwerus ac wedi bod yn rhan sylfaenol o bac y Scarlets, ac mae Glenn Delaney wrth ei fodd bod Wyn wedi cytuno i aros gyda’r clwb.

“Mae’n newyddion ardderchog bod Wyn wedi dewis i aros gyda ni”, dywedodd Glenn.

“Mae’n chwarae rhan bwysig iawn yn y garfan, ac mae’r gwaith caled a phrofiad fel chwaraewr rhyngwladol yn esiampl dda i’r chwaraewyr ifanc yn y clwb yn enwedig y propiau sydd yn dod trwy’r system ar hyn o bryd.”

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gan y clwb sawl cyhoeddiad ynglŷn â chwaraewyr sydd wedi cytuno cytundeb newydd gyda’r Scarlets.