Wyn Jones yn dychwelyd i garfan Cymru i wynebu Awstralia

Rob Lloyd Newyddion

Mae prop y Scarlets Wyn Jones wedi dychwelyd i dîm Cymru ar gyfer gêm Awstralia ar Ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality.

Mae’r Llew yn un o bump Scarlets wed’u cynnwys yn y 23, gan ymuno Liam Williams a’i gyd rheng-flaenwr Ryan Elias yn y XV. Mae Gareth Davies a Johnny McNicholl wedi’u henwi ar y fainc.

“Mae’r ymgyrch wedi bod yn heriol ond yn un lle rydym wedi rhoi mwy o gyfleoedd i chwaraewyr ar y lefel yma, sydd yn bositif ar gyfer y dyfodol. Gyda’r anafiadau rydym wedi gwynebu, roedd rhaid i ni newid ein ffordd ac mae hynny’n rhywbeth mae rhai o’r chwaraewyr wedi addasu at yn dda,” dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac.

Gan edrych ymlaen at y gêm ddiwethaf o’r ymgyrch, ychwanegodd: “Bydd Awstralia yn brifo o’r gemau golledig ac byddant am orffen y gyfres ar nodyn uchel. Mi fydd hi’n gêm diddorol i’w wylio.

“Mae Dave Rennie yn dod â agwedd corfforol i’r gêm a fyddwn yn sicr yn disgwyl hynny o gêm Awstralia ond mae rhaid i ni gyrraedd yr un lefel a cadw disgyblaeth. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth a fydd hi’n gyfle da i orffen ar nodyn uchel.

“Wythnos yma byddai’n annog (y dorf) i greu gwy o swn a chefnogi’r bois hyd yn oed yn fwy. Mae’r grwp wedi gweithio’n galed felly mae cael y gefnogaeth yn holl bwysig i yrru’r bois ymlaen a fyddwn yn ddiolchgar iawn o hynny.”

Tïm Cymru i wynebu Awstralia, yn Stadiwm y Principality, ar Ddydd Sadwrn 20fed o Dachwedd 2021

15 Liam Williams (Scarlets); 14 Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby), 13 Nick Tompkins (Saracens),  12 Uilisi Halaholo (Cardiff Rugby), 11 Josh Adams (Cardiff Rugby); 10 Dan Biggar (Northampton Saints),  9 Tomos Williams (Cardiff Rugby); 1 Wyn Jones (Scarlets), 2 Ryan Elias (Scarlets), 3 Tomas Francis (Ospreys), 4 Adam Beard (Ospreys), 5 Seb Davies (Cardiff Rugby), 6 Ellis Jenkins (Cardiff Rugby – captain), 7 Taine Basham (Dragons), 8 Aaron Wainwright (Dragons)Replacements; 16 Elliot Dee (Dragons), 17 Gareth Thomas (Ospreys), 18 Dillon Lewis (Cardiff Rugby), 19 Ben Carter (Dragons), 20 Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), 21 Gareth Davies (Scarlets), 22 Rhys Priestland (Cardiff Rugby), 23 Johnny McNicholl (Scarlets).