Will Evans yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Academi Hŷn.
Mae’r clo 18 oed wedi serennu yn ystod gemau haf tîm D18 y Scarlets, ond gollodd mas ar gemau Gradd Oedran lle aeth y tîm ymlaen i ennill y teitl oherwydd anaf.
Yn sefyll yn 6tr 6m ac yn pwyso 18st a 5p, mae Will yn gludwr pwerus ac yn aelod hanfodol o bac y Scarlets.
Ymddangosodd i dîm Cymru D18 tymor diwethaf ac ar ôl dychwelyd o anaf fe chwaraeodd yng ngemau Gŵyl y Chwe Gwlad yn Parma.
Chwaraeodd Will ei rygbi cynnar i Glwb Rygbi Chobham ac astudiodd yng ngholeg Llanymddyfri wrth chwarae i’r Academi.
Dywedodd prif hyfforddwr yr Academi Scott Sneddon: “Mae Will wedi bod gyda ni am sawl flwyddyn nawr ar ôl dod trwy’r rhaglen Exiles. Mae Will wedi mynd o nerth i nerth o ran ei allu i gario’r bel ac wedi datblygu’n gorfforol er iddo ddelio gydag anaf eleni. Mae ganddo’r meddylfryd i eisiau gwella.
“Er iddo ond fod yn y rhaglen am gwpl o flynyddoedd, rydym yn edrych ymlaen at weld ei ddatblygiad dros y 18 mis nesaf. Dyma’i gyfle i ddangos ei ddoniau.”