Y chwaraewr newydd, Danny Drake, yn mwynhau croeso Gorllewin Cymru… a’r heulwen!

Kieran Lewis Newyddion

O North Harbour i North Dock, mae Danny Drake yn ymgartrefu’n dda ym mywyd Llanelli.

Mae’r chwaraewr ail reng 24 oed yn un o ychwanegiadau newydd y Scarlets ar gyfer 2019-20, gan iddo ymuno â’r garfan ym Mharc y Scarlets fis diwethaf yn dilyn cytundeb â thîm rhanbarthol o Seland Newydd.

Yn dilyn cyfnod heriol o hyfforddiant cyn y tymor, mae’r chwaraewyr yn mwynhau wythnos o seibiant i ail-gynnau’r tân.

Pan fyddant yn dychwelyd, bydd tim newydd o hyfforddwyr yno i’w cyfarch gyda’r prif hyfforddwr, Brad Mooar a’i gynorthwyydd Glenn Delaney, bellach wedi cyrraedd

“Mae wedi bod yn dda, mae’r bechgyn i gyd yn groesawgar iawn, mae’r staff hyfforddi yn dda, mae’r stadiwm yn arbennig a dim ond unwaith mae wedi glawio ers imi fod yma,” gwenodd Danny.

“Coming here was a big decision to make, but an easy one to be honest. It is a big opportunity for me when you look at where the club is sitting and with the new coaching staff coming in. It is exciting times.”

Drake played for North Harbour in the Mitre 10 Cup and was part of Super Rugby side the Blues’ wider development squad. 

An athletic ball-handling second row, he can also provide options at blindside flanker if needed.

“Roedd dod yma’n benderfyniad mawr i’w wneud, ond yn un hawdd a bod yn onest. Mae’n gyfle mawr imi o edrych ar sefyllfa’r clwb gyda’r holl staff hyfforddi newydd yn cyrraedd. Mae’n gyfnod cyffrous.

“Mae’r ymarfer cyn-tymor wedi bod yn heriol, ond dyna yw’r bwriad… mae wedi bod yn debyg i adref, rhedeg yn y gwres drwy’r amser.

“Bydd Brad yn cyrraedd gan ddod a syniadau newydd a ‘dw i’n siwr y bydd pethau’n mynd yn fwyfwy heriol am weddill y paratoadau cyn y tymor.

Bydd y Scarlets yn chwarae eu gêm agoriadol cyn y tymor oddi cartref yn erbyn y Jersey Reds ddydd Sadwrn, Medi 7fed yn dilyn gornest yn erbyn y gelynion rhanbarthol, y Dreigiau yn Rodney Parade.

Connacht yw’r ymwelwyr i Barc y Scarlets ar gyfer rownd gyntaf y Guinness PRO14 ddydd Sadwrn, Medi 28.

Felly beth am ymuno â’r pac a phrynu’ch tocyn tymor ar gyfer tymor sy’n addo i fod yn hynod gyffrous gan ymweld â http://www.scarletsseasontickets.wales/cy/