Y diweddaraf ar anafiadau a chapten newydd i wynebu’r Dreigiau

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg am gêm agoriadol Cwpan yr Enfys dydd Sul yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade.

Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.

Wyt ti’n siomedig na fyddwch yn herio’r timau De Affrig yng Nghwpan yr Enfys?

GD: “Rydym yn deall pam, mae’n fyd rhyfedd iawn ar hyn o bryd. Y siom yw na fydd y chwaraewyr yn cael y cyfle i chwarae yn erbyn y chwaraewyr yna. Dyna beth roedd pawb yn edrych ymlaen at; fe awn ni ymlaen i ganolbwyntio ar y gystadleuaeth fel y mae. Bydd y newidiadau yma ddim yn newid cyfeiriad y gystadleuaeth, sydd â chyffro go iawn.”

Beth wyt ti’n meddwl am ddewis tîm i Gwpan yr Enfys?

GD: “Hyd yma, rydym yn bwriadu i ddefnyddio’r gystadleuaeth yma i sicrhau bod y garfan mewn iechyd da a rhoi cyfleoedd i fois i chwarae, dyna’r rhan allweddol. Wrth edrych ar ein grŵp, mae llawer o chwaraewyr rhyngwladol wedi bod i ffwrdd am amser hir, bydd hi’n grêt i weld nhw nôl yn y crys. Mae nifer o fois hefyd angen amser chwarae cyn cychwyn y tymor nesaf felly mae nifer o fois yn cael mwy o amser chwarae fel y gallwn ddysgu mwy amdanyn nhw. Rydym yn bwriadu rhoi tîm allan ar ddydd Sul fydd yn cynrychioli’r clwb yn dda. Ryan Elias bydd y capten am y tro cyntaf felly fydd hynny’n foment balch iawn iddo.”

Mae rhaid dy fod yn edrych am ymateb yn dilyn y golled yn erbyn Sale?

GD: “Yr unig ffordd i wella perfformiad gwael yw i ddychwelyd yn ôl i’r cae a chwarae eto.”

Beth yw’r diweddaraf o ran anafiadau?

GD: “Mae Rob Evans ar gael sydd yn grêt, ac mae Kieran Hardy. Nad yw Samson a Cubby yn barod eto. Mae’n wych i weld Rob yn ôl ac yn cyfrannu. Mae Samson yn her debyg; o ran cyfergyd, mae’n sefyllfa o ‘how long is a piece of string?’. Yr arbenigwyr sydd yn ein cynghori. Mae ei ddychweliad yn broses hir ac araf, a James Davies yr un peth. Y realiti yw, nid penderfyniad rygbi yw hi ond penderfyniad meddygol. Mae Sams yn gwella ac yn gwneud gwelliannau felly rydym yn obeithiol fydd yn ôl ar y trywydd iawn erbyn diwedd y tymor.”