Y Gorllewin sy’n cael y gair olaf yn erbyn y Dwyrain ym Mharc y Scarlets

Rob Lloyd Newyddion, Newyddion yr Academi

Llwyddodd tîm Gorllewin D17 y Scarlets i ennill yn erbyn y Dwyrain o 24-19 yn ystod gêm cyffroes o flaen torf mawr ar gae ymarfer Parc y Scarlets.

Wrth i’r Dwyraint taro nôl yn yr ail hanner roedd y cwestiwn ar bwy fydd yn cipio’r fuddugoliaeth, ond bois y Gorllewin cudiodd ymlaen tan y chwiban olaf.

Roedd llawer o dalent yn cael eu arddangos wrth i’r bois ifanc datblygu o fewn y rhanbarth.

Y canolwr ifanc Macs Page llwyddodd y gais cyntaf, gan gamu drosodd ar ôl i’w dîm gipio’r bêl o’r llinell tu fewn i 22 y Dwyrain.

Y mewnwr Tom Morgan yn croesi â’r trosiad gan Fraser Jones welodd y Dwyrain yn brwydro nôl, ond mwy o geisiadau gan y prop Ptolemy Alleyne a’r chwaraewr ail reng Jac Newbold, a’r trosiad eto gan Page, sicrhaodd taw y Gorllewin oedd yn arwain ar hanner amser o 17-7.

Cychwynodd yr ail hanner gyda chais gan Wood i ymestyn sgôr y Gorllewin, ond i’r Dwyrain taro nôl pan gwibiodd yr asgellwr Jay Smith dros y llnell i gadw’r tîm i fewn y gystadleuaeth.

Yr eilydd Dominic Jones ychwanegodd y trydydd cais i’r Dwyrain yn y munudau olaf, ond y Gorllewin parhaodd ar y blaen i orffen y gêm.

Dyma oedd y gêm ddiwethaf i gwblhau wythnosau llwyddiannus i fois d17 y rhanbarth a wnaeth ennill y tair gêm blaenorol yn erbyn y Gweilch.