Y tro cyntaf i ni wisgo sgarlad

Rob Lloyd Newyddion

Ebrill 14, 1884, diwrnod lle cafodd crys Scarlets ei wisgo am y tro cyntaf a’r cam cyntaf yn ein hanes sydd wedi bod yn rhan o ddefnydd un o crysau enwocaf rygbi.

Y gyntaf yng nghyfres o erthyglau i ddathlu 150 o flynyddoedd o’n hanes, rydym yn troi’r cloc nôl 138 o flynyddoedd i’r tro cyntaf i ni wisgo sgarlad.

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn 1872, pan ddaeth grwp o selogion ifanc at ei gilydd ar Sul y Pasg i sefydlu’r clwb ac amserlen gemau ymarfer.

Roedd yr ymarferion a gemau cynnar wedi’u chwarae yn ‘People’s Park’ yng nghalon y dref gyda’r gêm gyntaf wedi’i drefnu yn erbyn tîm o Glwb Cambrian Abertawe yn Ionawr 1876.

Tair mlynedd yn ddiweddarach fe symudodd y clwb i’w cartref hanesyddol ym Mharc y Strade.

Yn wreiddiol, fe chwaraewyd Clwb Rygbi Llanelli yn lliw glas tywyll, ac ers hynny mae’r clwb wedi defnyddio’r lliw yna fel crys oddi cartref dros sawl tymor.

Wedyn fe ddaeth y lliw mwy anghonfensiynol o rhosyn pinc a lliw briallu.

Soniwyd yn llyfr ‘One Hundred Years of Scarlet’ gan yr awdur Gareth Hughes: “it was a choice which may well have had an aesthetic appeal for a minority, but which clearly caused offence to the majority.

“The committee were compelled to resign and though the new body of committeeman, presumably with a thought or two for economy, decided to persevere with the new colours for the remainder of the season, the days of rose and primrose were doomed.”

Fe newidwyd y lliw rhosyn pinc a briallu i goch â chwarteri siocled yn 1883-84 – Fe atgyfododd y crys hynny ar gyfer ein tymor 2007-08 – ond roedd hynny hefyd yn newid byr ac ar Llun y Pasg, Ebrill 1887, fe chwaraeodd Llanelli ym Mharc y Strade yng nghrys sgarlad am y tro cyntaf.

Yr ymwelwyr ar y diwrnod hwnnw? Y tîm cenedlaethol Gwyddelig, a oedd wedi chwarae Cymru ar y Dydd Sadwrn ac yn ymweld â Gorllewin Cymru ar eu siwrne nôl i Iwerddon.

Parhaodd ‘One Hudred Years of Scarlet’: “This time, the smart appearance of the Llanelli team must have met with general approval, for Llanelli wore scarlet from that day onward, to such good effect that they were soon to be known as the ‘Scarlet Runners’ of Welsh rugby.’”

Darllenwyd adroddiad yn y papur Llanelly and County Guardian: “The Llanelly team were the first on the ground, making their first public appearance in full colours, their scarlet gold-laced caps adding much to their bright appearance.”

Er i’r canlyniad o’r gêm yna fod yn ddiarth, mae’r adroddiad yn parhau i sôn am ddychweliad calonogol yng ngwesty Thomas Arms yn dilyn y gêm cyn i’r Gwyddelod i barhau ar eu taith nôl ar y fferi ym Mae Abergwaun.

O’r diwrnod yna ymlaen, mae’r gweddill wrth gwrs yn ein hanes – hanes mae’r clwb yn hynod o falch ohono wrth i ni baratoi i ddathlu ein 150fed tymor.