Ymateb Glenn Delaney i fuddugoliaeth Dydd Calan ym Mharc y Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Brwydrodd y Scarlets i fuddugoliaeth 20-3 yn erbyn y Dreigiau i wthio’u hunain i’r ail safle yng nghynghrair B y Guinness PRO14.

Siaradodd Glenn Delaney a’r wasg yn dilyn y gêm.

Er y fuddugoliaeth, nid y fuddugoliaeth bertaf erioed?

GD: “Roedd llawer o gicio yn ystod y gêm, nad oedd naill dîm eisiau rhoi cyfleoedd gwrth ymosod i’w gilydd. Yn amddiffynnol, roedd y tîm yn gadarn, teimlais doedd ddim peryg ar ein llinell, er roedd sawl adeg o stopio ac ailddechrau gyda’r bel yn disgyn, ond dw i wrth fy modd gyda’r fuddugoliaeth.

“Gyda’r gemau darbi yma, rwy’n dechrau sylweddoli eu bod nhw’n aml yn debyg ac yn dod a’r drwg a’r da allan ohonom ni oherwydd y fath o gystadleuaeth yw hi. Yn ddelfrydol, hoffwn os oedd y bois wedi gwneud ychydig mwy gyda’r bel ac roedd ein hymosod yn ardal y gwrthdaro yn gwan, llwyddodd y Dreigiau i droi’r bel drosodd felly mae angen gweithio ar hynny a sicrhau ein bod yn manteisio ar gyfleoedd yn syth.”

Rydych wastad yn tueddu cadw eich hunanfeddiant nes i’r fuddugoliaeth gael ei sicrhau?

GD: “Mae rhaid rhoi’r clod i Steff Hughes a Ken Owens am hynny, a’r arweinyddiaeth dda maent yn rhoi. Nhw sy’n gosod y safon o ran arweinyddiaeth a dyna beth sydd eisiau ar y cae pan mae’r gêm gallu mynd naill ffordd, ac maent yn gyfforddus i barhau chwarae a dyna beth wnaethant nhw.”

Beth yw’r diweddaraf o ran y bois a ddaeth oddi’r cae gydag anafiadau?

GD: “Pen-glin Jake a chwpl o ergydion i bennau chwaraewyr bydd angen edrych ar. Byddwn yn gwybod mwy am hynny ar ddydd Llun.”

Beth am y chwaraewyr sydd am ddod yn ôl mewn i’r garfan?

GD: “Rydym yn gobeithio bydd nifer o fois yn ôl wythnos nesaf. Maent i gyd yn gweithio’n galed iawn i ddod yn ôl mor gynted ag sy’n bosib iddyn nhw. Edrychwn ar yr hyn sydd angen gwella cyn i ni edrych ar beth sydd angen gwneud cyn i ni wynebu’r Gleision.”

Beth am berfformiad Sione Kalamafoni?

GD: “Mae Sione wedi bod yn gwneud hynny ers sbel. Beth mae pawb yn sylwi ar yw ei ymdrech ffrwydrol yn ystod gemau, beth nad yw pobl yn cael gweld yw sut mae’n ymddwyn gyda’r bois ifanc. Mae’n alfanedig iawn, mae gennym nifer o chwaraewyr dylanwadol ymysg ein hwythwyr gyda fe a Cass. Mae’r bois yn mwynhau chwarae gydag ef, ac mae ganddo’r gallu i greu cyfleoedd a chreu moment fawr i’w hun. Pan ymunodd â’r garfan, yn amlwg roedd ganddo’r gallu i greu gwahaniaeth gyda’r ymosod ac yn ystod gêm fel heddi’ lle’r oedd y fuddugoliaeth yn gallu troi’r naill ffordd, roedd angen rhywun i gymryd rheolaeth ac fe wnaeth hynny’n dda. Credais fod Blade a Dan Davis wedi chwarae’n dda, ac i Dan gael ei ddechreuad cyntaf y tymor yma. Roedd y tri yn gydbwysedd da.

Beth am gais munud olaf Sam Costelow? 

GD: “Mae Sam yn chwarae’n ardderchog ac rydym yn rhoi’r cyfleoedd iddo mor aml ag sy’n bosib. Mae’n dangos bod ganddo’r gallu. Mae’n gweithio’n galed iawn ar ei sgiliau ac eisiau dysgu mwy am y gêm. Dyna beth rydym eisiau gweld ganddo. Ymddangosiad positif arall iddo yn ystod y gêm darbi a fyddwn yn parhau i roi’r cyfleoedd iddo. Mae Dinky a Gus yn chwarae’n dda ar hyn o bryd ac mae Sam yn dod a chyffro ac ieuenctid i’r grŵp yna.”