Ymateb i’r colled yn erbyn y Dreigiau

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd ein prif hyfforddwr Glenn Delaney ac ein capten Ryan Elias gyda’r wasg yn dilyn y golled 52-32 yn erbyn y Dreigiau yng Nghwpan yr Enfys. Dyma beth oedd gan y ddau i’w ddweud.

Glenn, beth oedd dy asesiad o’r gêm?

“Siomedig iawn. Credais fod y gêm yn gytbwys am ychydig, ond roedd yr ail hanner heb unrhyw rheolaeth o’r tîm a llwyddodd y Dreigiau i fanteisio ar hynny gan sgori. Roeddwn yn anlwcus gyda chais Ryan yn cael ei wrthod cyn hanner amser, ond ar y cyfan roedd yr ail hanner allan o’n dwylo â dim rheolaeth. Roedd yna cyfuniad newydd felly yn amlwg roedd mwy o waith yw wneud ond y reaiti yw, roedd y tîm yn wan yn amddiffynol am yr ail hanner. Nad oeddwn yn ennill unrhyw gwrthdrawiadau ac mae’n anodd iawn i ddod yn ôl i mewn i’r gêm heb hynny. Dangosom ein bod gallu sgori pan yn cael y cyfle, ond cawsom cynlleied o gyfle ar y diwrnod.”

Beth sydd wedi mynd o’i le gyda’ch amddiffyn?

GD: “Nad yw’r amddiffyn wedi bod yn broblem y tymor yma heb law am y tair gêm diwethaf. Rhyw dau fis yn ôl, ni oedd y tîm gorau yn y PRO14 yn amddiffynol, ond mae hynny wedi colli ffordd. I mi, roedd peth o’r taclo yn edrych petai yn opsiynol, mae rhaid i ni sicrhau bod yr angerdd yna i fwynhau’r cystadlu ac eisiau ennill nhw. Os nad ydych gyda’r rheolaeth mae mynd i fod yn anodd.”

Golwg bositif i weld Rob Evans a Kieran Hardy nôl a chwaraewyr ifanc yn cael cyfleoedd?

GD: “Mae’n grêt i gael cwpl o fois nôl a chwaraewyr ifanc hefyd yn cael profiadau. Fe parhawn gyda rhoi cyfleoedd iddyn nhw ac y gobaith yw fyddwn yn gwella erbyn tro nesaf. I ni methu bod yn hapus gyda chanlyniad heddiw. Rydym wedi gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethad a disgwylwn gwell nag heddiw.”

Ryan, sut wyt ti’n edrych nôl ar y golled heddiw?

RE: “Mae rhaid i ni fod yn onest gyda’n hunain, nad oedd heddiw yn ddigon da, roedd yr agweddau gwan yn rhywbeth rydym wedi bod yn trafod trwy’r wythnos, atal nhw rhag cael momentwm, amddiffyn o’r adeg cyntaf, nad oeddyn yn dangos heddiw. Cawsmo adegau da, ond ar ddiwedd y dydd mae rhaid cryfhau’r amddiffyn. Mae rhaid i ni wella yn gorfforol ac mae rhaid i ni edrych ar beth sydd yn mynd o’i le ac mae’r wythnosau nesaf yn holl bwysig wrth arwain at y Gweilch”