Ymateb i’r fuddugoliaeth holl bwysig yn erbyn Benetton

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets wedi symud i’r trydydd safle yng nghynhadledd B gan ddiolch i’r fuddugoliaeth pwynt-bonws holl bwysig yn erbyn Benetton yn Llanelli.

Dyma beth oedd gan y prif hyfforddwr Glenn Delaney i ddweud yn syth ar ôl y gêm.

Glenn, roedd hynny’n berfformiad gwell gan y Scarlets?

GD: “Credais ein bod wedi creu sylfaen da yn yr hanner cyntaf, roedd ein safle gosod yn gweithio’n dda, roedd ein sgrymio a phwysedd wedi arwain at ennill tiriogaeth ac o ganlyniad roeddwn allu rheoli’r gêm ac ennill pwyntiau.

“Dw i’n cydnabod y gwaith da gan hyfforddwyr y blaenwyr sydd wedi gweithio’n galed. Mae Benetton yn dîm anodd i dorri lawr, ac mae gennym ni llawer o barch tuag atyn nhw. Roedd angen i ni weithio’n galed prynhawn ‘ma.

“Siaradais gyda’r bois yn ystod yr egwyl i esbonio mae’r unig ran o’r gêm fydd yn cael ei adolygu ydy’r ail hanner. Mae ffactorau rydym yn gwybod bod angen gwella, yn ardal y gwrthdaro a gwneud penderfyniadau, ond roedd digon o optimistiaeth yna i chwarae ac i gael y bel allan. Roeddwn yn falch iawn o hynny.

“Beth sy’n bwysig yw chwarae’r gorau y gallwn, ac rydym wedi gweithio’n galed iawn yn ystod y tair wythnos diwethaf ac mae’r gwaith hynny wedi talu ffordd heddiw. Mae’r grŵp yma yn gweithio’n galed ac maent yn haeddu pob clod.”

Beth wyt ti’n meddwl o berfformiad serennog Jac Morgan?

GD: “Mae’n chwaraewr da yndy? Siom oedd colli Sam mor gynnar yn y gêm i anaf i’w bigwrn, roedd yn chwarae’n dda. Mae’r bois ifanc yn profi eu bod yn gallu chwarae at y lefel yma sydd yn grêt i weld. Mae’n rheng ôl gryf ymysg Jac gyda Sione a Cass ac wedyn Ed yn dod ymlaen i brofi ei hun.”

Mae’n debygol fydd hi’n frwydr am safle yng Nghwpan y Pencampwyr? 

GD: “Os nag oedd y gêm heddiw wedi mynd ein ffordd ni, fydd pethau wedi bod yn anodd iawn. Rhaid cymryd cam wrth gam. Mae’r gemau yn dod yn gyflym gan ddechrau yng Nghaeredin ar ddydd Sadwrn a fyddwn yn mynd yna llawn optimistiaeth. Bydd rhaid i’n safle gosod fod yn gryf eto. Bydd y bechgyn yn mwynhau’r fuddugoliaeth yma ac wedyn nôl mewn i’r gwaith ar ddydd Llun. Gobeithio cawn weld mwy o’r fath o chwarae gwelsom heddiw; fydd hi’n gystadleuaeth frwd.