Siaradodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney a Ken Owens gyda’r wasg yn dilyn y golled 58-14 i Sale yng Nghwpan Pencampwyr ym Mharc y Scarlets. Dyma beth oedd ganddyn nhw i ddweud.
Glenn, wyt ti heb profi llawer o gemau fel hon. Beth yw dy ymateb?
GD: “Ti’n iawn, dw i heb. Yn ystod yr hanner cyntaf fe wnaethom ormod o gamgymeriadau ac fe wnaethom bethau yn rhwydd i Sale. Roedd ganddyn nhw’r diriogaeth ac fe ddaeth y momentwm o hynny. Pan nad wyt yn rheoli’r diriogaeth yn gynnar mewn gêm fawr Ewropeaidd, mae mynd i fod yn anodd dod nôl o hynny. Roedd sawl camgymeriad wedi arwain at ganlyniad y gêm. Unwaith i’r momentwm adeiladu yn ein herbyn, roedd y gêm allan o’n dwylo ni. Dyna oedd stori’r gêm.”
Roedd Sale yn dominyddu’n gorfforol?
GD: “Roedd y tîm yn gorfforol iawn. Ar adegau, wrth chwarae gyda cynlleiad o feddiant, rydych yn cymryd pethau mewn i ddwylo eich hun, ac fe wnaeth hyn helpu Sale yn y pendraw. Credais ein bod yn wych yn y sgarmes ond roedd hynny ddim yn ddigon. Mae wedi bod yn noson siomedig.”
Fe ges di sgwrs gyda’r bois ar ôl y gêm, beth cafodd ei ddweud?
GD: “Mae rhaid ceisio fod yn wrthrychol. Rhaid cymryd cam yn ôl. Momentwm oedd y rheswm am y sgôr, a chafodd ei adeiladu cymaint yn ystod yr hanner awr gyntaf pan na chawsom y cyfle i weithio ein ffordd nôl. Fe ddawn yn ôl o hyn achos mae rhaid i ni, a dyna beth wnawn ni. Beth rydym yn ffocysu ar nawr yw sut i wella ein hunain.”
Ken, beth yw dy ymateb i’r perfformiad yna a’r chanlyniad?
KO: “Mae rygbi yn gêm syml iawn, nad oedd y ddau dîm yn cyfateb yn gorfforol ac fe wnaethom ormod o gamgymeriadau gefn wrth gefn o fewn y 30 munud cyntaf ac fe wnaeth hynny chwarae i mewn i’w dwylo nhw. Roedd Sale yn ymosod yn uniongyrchol iawn, rhywbeth roeddwn yn disgwyl. Er iddi fod yn rhwydd, mae’n anodd iawn i stopio pan maen nhw’n cael hi’n iawn. Chwaraeon nhw’n dda iawn yn amddiffynnol, roedd ganddyn nhw gyflymder gwych ar y llinell, rhywbeth nad oeddwn yn gallu delio gyda’n dda iawn wrth i’r gêm fynd ymlaen a mwy o gamgymeriadau yn cael eu gwneud wrth dderbyn mwy o bwysau. Roedd ganddyn nhw’r rheolaeth ac fe gollon i dîm gwell ar ddiwedd y dydd.”
Fel aeth hi mor anghywir?
KO: “Y teimlad oedd ein bod wedi paratoi’n dda dros y pythefnos. Cawsom ein dominyddu’n gorfforol. I ni fethu cwyno. Ni heb lwyddo i ddelio gyda beth roedd Sale am wneud. Rhoddom fomentwm i Sale ac mae’n anodd iawn i gael hynny’n ôl wrth dîm mor gryf â hynny. Mae’n siomedig iawn. I ni fethu gwadu’r grasfa cawsom heddiw. Rhaid i ni ddangos ein bod yn ochr gwell nag yr hyn dangosom heno.”