Ymddangosiad cyntaf i Tom, canfed i Leigh!

Rob LloydNewyddion

Bydd Tom Rogers yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad a Leigh yn ennill ei ganfed cap Prawf ar ôl cael eu enwi yn nhîm Cymru i wynebu Canada yn Stadiwm y Principality ar ddydd Sadwrn (15:00).

Tom fydd y 241fed chwaraewr i chwarae rygbi rhyngwladol tra’n cynrychioli’r Scarlets, wrth i gyfuniad Halfpenny o 96 cap i Gymru a pedwar ymddangosiad i’r Llewod ei ddod at ganrif o ymddangosiadau.

Mae pum Scarlet wedi’u cynnwys yn y carfan 23 dyn wrth ochr Jonathan Davies sy’n arwain yr ochr fel canolwr a’r bachwr Ryan Elias a’r mewnwr Kieran Hardy wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.

Mae’r cyn-chwaraewr academi Rogers yn un o bum chwaraewr di-gap dewiswyd gan Wayne Pivac ar gyfer y tri prawf am yr haf.

“Rydym yn edrych ymlaen at ailddechrau yn y Principality hgyda cefnogwyr yn mynychu ac mae’r gêm yn erbyn Canada yn ddebygol o fod yn ddigwyddiad gwych,” dywedodd Pivac.

“Mae’r haf yma yn bwysig wrth i ni adeiladu tuag at Cwpan y Byd 2023, ac mae’n grêt i roi cyfleoedd i bum chwaraewr di-gap. Maen nhw i gyd wedi profi eu gwerth yn ystod ymarferion, ac yn haeddu cyfle ac rydym yn edrych ymlaen at hynny.

“Ar begwn arall mae Leigh Halfpenny, sy’n gwneud ei 100fed ymddangosiad prawf. Mae’n cyrrhaeddiad gwbl haeddiannol i Leigh ac yn brofiad hyn yn oed gwell gan wybod bydd ei deulu a cymaint o gefnogwyr yma i’w wylio.”

TÎM CYMRU I WYNEBU CANADA AR DDYDD SADWRN, GORFFENNAF 3 (15:00)

15 Leigh Halfpenny (Scarlets); 14 Jonah Holmes (Dragons), 13 Uilisi Halaholo (Cardiff Rugby), 12 Jonathan Davies (Scarlets), 11 Tom Rogers (Scarlets); 10 Callum Sheedy (Bristol Bears), 9 Tomos Williams (Cardiff Rugby); 1 Nicky Smith (Ospreys), 2 Elliot Dee (Dragons), 3 Dillon Lewis (Cardiff Rugby), 4 Ben Carter (Dragons) 5 Will Rowlands (Dragons), 6 Ross Moriarty (Dragons), 7 James Botham (Cardiff Rugby), 8 Aaron Wainwright (Dragons).

Replacements: 16 Ryan Elias (Scarlets), 17 Gareth Thomas (Ospreys), 18 Leon Brown (Dragons),  19 Josh Turnbull (Cardiff Rugby), 20 Taine Basham (Dragons),  21 Kieran Hardy (Scarlets), 22 Ben Thomas (Cardiff Rugby), 23 Nick Tompkins (Saracens).