“Ymrwymiad, calon a chymeriad oedd yn bwysig”

Rob Lloyd Newyddion

Canmolodd Glenn Delaney’r ymdrech gan y Scarlets i ennill y gêm Cwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Caerfaddon gydag o sgôr o 23-19 yn y Rec.

Yn ystod y munudau olaf, roedd gan y Scarlets digon egni i frwydro am y fuddugoliaeth gyda Morgan Jones yn taclo Ben Spencer gan ei rhwystro rhag y llinell.

“Roedd gan y gêm yna rhywbeth i bawb yndoedd?” Dywedodd Delaney ar ôl y gêm.

“Cawsom gyfle i sgori gais munudau cyn y chwiban olaf ac roedd yr ymrwymiad i’r ymdrech yna yn anferthol, roedd y tîm o dan gymaint o bwysau, ac roedd eu cymeriadau yn dangos trwy hynny. Roedd y bois eisiau rhoi perfformiad da i Gareth ar ei 200fed ymddangosiad, roedd yn foment sbesial iawn i weld y bois yn gorffen y gêm yn llwyddiannus iddo.

“Roedd y munudau diwethaf yna yn dangos ymrwymiad a chalon. Roedd adegau yn ystod yr hanner cyntaf lle nad oeddwn yn hapus gyda’r amddiffyn, ac roedd angen i ni ddangos mwy o ymosod yn ein chwarae, ond mae’r cymeriad yna yn dangos yn ystod momentau mawr. Rydym yn dysgu fel grŵp beth mae fel i fod yn rhan o’r gystadleuaeth ac roedd heno yn fuddugoliaeth Ewropeaidd enfawr i ni.

“Mae’n gam fawr ymlaen, ac fe fwynhawn y dathlu a pharatoi am Toulon wythnos nesaf.”

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf, roedd y Scarlets yn colli o 14-10 a 19-13 erbyn y chwarter olaf, ond yr eilydd Kieran Hardy yn sgori gais ardderchog cyn i’r ddrama ddechrau.

Ychwanegodd Delaney: “Yn ystod yr ail hanner roedd y bel yn cael ei symud allan yn fwy tuag at yr ymyl. Doedd hynny ddim yn bosib i ni yn ystod yr hanner cyntaf. Roedd y cais yna yng nghanol y cae, gyda phas Rob Evans i Kieran yn anhygoel. Dyna’r fath o gêm rydym eisiau chwarae.

“Gan fod Caerfaddon yn dîm cryf gyda chwaraewyr da, roedd angen i ni symud nhw o amgylch y cae, ac fe welsom wreiddiau’r Scarlets yn dangos ar y cae, ac mae’r bois yn falch iawn i ddod â’r doli clwt yn ôl i Lanelli.

Gan edrych ymlaen at wynebu’r cewri Ffrengig Toulon ar nos Wener, ychwanegodd Delaney: “Mae sawl corff dolurus gyda ni, felly bydd angen cadw llygaid arnyn nhw.”

Ofynnir beth fydd angen gweithio ar cyn yr ail rownd, dywedodd “un peth hoffwn weithio ar yw cael cefnogwyr yn ôl yn y stadiwm. Roedd hi’n grêt i gael pobl yma am y gêm hon, ond hoffwn weld cefnogwyr yn ôl ym Mharc y Scarlets mor gynted ag sy’n bosib. Mae’r ymgyrchoedd Ewropeaidd yn anferthol i’r clwb ac mae’r cefnogwyr sy’n trafaelu i gefnogi yn dod a cymaint o hwb i ni. Rydym am gael nhw yn ôl yn fuan.”

Uchafbwyntiau https://youtu.be/84Bey8aW0sw