Ystadegau: Sione yn parhau i serennu

Rob Lloyd Newyddion

Chwaraewr rheng-ôl y Scarlets Sione Kalamafoni yn parhau i serennu yn nhablau ystadegau’r Guinness PRO14.

Ymddangosiad nodiadol arall yn erbyn Benetton gan y dyn o Donga a welodd yn symud i’r ail safle yn y tabl, wrth i seren y Springbok’s ac Ulster Marcell Coetzee gipio’r brig safle (128).

Mae Sione hefyd yn drydydd o ran y siartiau taclo (137), tu ôl Dan Lydiate o’r Gweilch (149) a Josh Turnbull o Gleision Caerdydd (163).

Yn ystadegau Opta, mae Steff Evans yn gydradd trydedd am fwyaf o ddadlwythi yn y gystadleuaeth (11) ac yn drydedd am fylchiadau (14) wrth i ddau gipiad Jac Morgan yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton ei gadw yn y gystadleuaeth i ennill teitl ‘PRO14 turnover king’.

Ar hyn o bryd mae Chris Cloete o Munster yn arwain gyda 11. Mae Jac yn y pumed safle gydag wyth. Blade Thomson sydd un tu ôl iddo gyda saith.