Scarlets yn arwyddo pâr o fewnwyr

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau bod dau fewnwr, Kierna Hardy a Sam Hidalgo-Clyn, wedi arwyddo cytundebau gyda’r rhanbarth.

Gyda’r mewnwr rhyngwladol Aled Davies yn ymuno â’r Gweilch ar gyfer 2018-19 mae’r Scarlets wedi symud i gryfhau’r garfan gyda phrofiad a thalent ifanc.

Datbygodd Hardy, o Bontyberem, trwy’r system graddau oed yn y rhanbarth ac roedd yn aelod o Academi’r Scarlets. Chwaraeodd ei gêm proffesiynol cyntaf i’r Scarlets yn erbyn Northampton Saints yng Nghwpan Eingl-Gymreig ym mis Tachwedd 2014.

Symudodd y mewnwr 22 mlwydd oed i ymuno â Jersey ar gyfer tymor 2016-17 lle mae wedi gwneud argraff mawr.

Chwaraeodd i Gymru dan 20 ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad a’r Cwpan Ieuenctid y Byd yn 2015. Roedd hefyd wedi cynrychioli Cymru dan 16 a dan 18.

.

Fe fydd y mewnwr 24 mlwydd oed Sam Hidalgo-Clyne yn ymuno â’r rhanbarth o’r brif ddinas Albanaidd.

Fe gymrodd yr awennau cicio ar ddiwrnod gêm yn 2014-15 gyda’i gywirdeb yn ddigon i gynorthwyo’r tîm i Rownd Derfynol Cwpan Her Ewrop.

Chwaraeodd Hidalgo-Clyne ei gêm gyntaf i’r Alban yn 2015 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n falch iawn bod mewn sefyllfa lle byddwn ni’n croesawu Kieran a Sam i’r Scarlets. Fe fydd Kieran yn dychwelyd i’w rhanbarth ar ôl iddo gael cyfle i barhau gyda’i ddatblygiad yn Jersey ac fe fydd Sam yn dod â phrofiad gydag ef o Gaeredin. Ry’n ni’n awyddus iawn i barhau i ddatblygu’r garfan.”

Ychwanegodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol y Scarlets; “Ry’n ni’n falch iawn croesawu Kieran yn ôl i Orllewin Cymru a’r Scarlets ar ôl cyfnod oddi yma. Yn ystod ei gyfnod gyda Jersey mae wedi datblygu’n arbennig ac wedi ennill sawl tlws seren y gêm. Mae wedi aeddfedu ac wedi datblygu i fod yn dalent cyffrous iawn.

“Fel y gwelwyd yn y golled yn erbyn aeredin ychydig wythnosau yn ôl mae Sam yn chwaraewr da iawn gyda throed chwith arbennig ac mae’n gallu newid gêm yn sydyn. Yn ystod ein trafodaethau gyda Sam roedd e’n broffesiynol iawn ac roedd ei awydd i gystadlu am dlysau yn amlwg – ond mae’n ymwybodol y bydd yn rhaid iddo frwydro am ei le tymor nesaf. Ry’n ni’n gobeithio y bydd y gystadleuaeth yna yn gwthio Sam a’r mewnwyr eraill i’r lefel nesaf a fydd yn dda i’r tîm.”

Gwnewch yn siwr eich bod chi #ynypac yn 2018-19 fel Kieran a Sam. Mae tocynnau tymor ar gael nawr gyda’r cyfnod prynnu rhad wedi ei ymestyn tan 7pm nos Wener 4ydd Mai.

I brynu / adnewyddu neu am wybodaeth pellach cliciwch yma